One Flew Over the Cuckoo's Nest (ffilm)
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Miloš Forman |
Cynhyrchydd | Michael Douglas Saul Zaentz |
Ysgrifennwr | Nofel: Ken Kesey Sgript:' Lawrence Hauben Bo Goldman |
Serennu | Jack Nicholson William Redfield Brad Dourif Will Sampson Danny DeVito Scatman Crothers Christopher Lloyd Louise Fletcher |
Cerddoriaeth | Jack Nitzsche |
Sinematograffeg | Haskell Wexler |
Golygydd | Richard Chew Sheldon Kahn Lynzee Klingman |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | United Artists Warner Home Video (fideo) |
Dyddiad rhyddhau | 19 Tachwedd 1975 |
Amser rhedeg | 133 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm ddrama Americanaidd o 1975 ydy One Flew Over the Cuckoo's Nest, a gyfarwyddwyd gan Miloš Forman. Addasiad yw'r ffilm o'r nofel 1962 o'r un enw gan Ken Kesey. Y ffilm hon oedd y cyntaf i ennill y pum prif gategori yng Ngwobrau'r Academi, (Ffilm Orau, Actor mewn Prif Rôl, Actores mewn Prif Rôl, Cyfarwyddwr, Sgript) ers It Happened One Night ym 1934. The Silence of the Lambs oedd y ffilm nesaf i wneud hyn, a hynny ym 1991. Yn aml, cyfeirir at One Flew Over the Cuckoo's Nest fel un o'r ffilmiau gorau erioed yn hanes sinema'r Unol Daleithiau. Ar restr IMDb o'r 250 ffilm gorau, mae'r ffilm hon ar rif 8.
Bu fersiwn llwyfan cynt o'r llyfr ym 1963, ond nid yw'r ffilm yn defnyddio sgript y fersiwn llwyfan. Cafodd ei ffilmio yn Ysbyty Talaith Oregon, yn Salem, Oregon sef lleoliad y nofel.