Christopher Lloyd
| Christopher Lloyd | |
|---|---|
Christopher Lloyd yn Comic-con Phoenix 2015 Phoenix | |
| Ganwyd | Christopher Allen Lloyd 22 Hydref 1938 Stamford |
| Man preswyl | Stamford, Dinas Efrog Newydd, New Canada, Montecito |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor llais |
| Tad | Samuel R. Lloyd |
| Mam | Ruth Lapham |
| Gwobr/au | Gwobr Primetime Emmy am Actor Cefnogol Eithriadol mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy am Actor Cefnogol Eithriadol mewn Cyfres Gomedi, Gwobr yr Ysbryd Rhydd am yr Actor Gwrywaidd Cefnogol Gorau, Gwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama |
Actor o'r Unol Daleithiau yw Christopher Allen Lloyd (ganwyd 22 Hydref 1938 yn Stamford, Connecticut).
Teulu
[golygu | golygu cod]Ruth Lapham (cantores ac aelod o linach busnesol) oedd ei fam a Samuel R. Lloyd (cyfreithiwr) oedd ei dad.
Roedd ei daid ar ochr ei fam, Lewis Henry Lapham, yn ffigwr amlwg yn hanes Texaco ac yn dod o linach Americanaidd uchel ei pharch. Mae coeden deulu Geneastar a WikiTree yn dangos enwau Cymreig ar ochr ei fam, ee Henry Griffith Lapham, sef taid i fam Christopher Lloyd, a hen-daid Christopher Lloyd.
Mae ei dad, Samuel R. Lloyd Jr., yn ddisgynnydd i deulu'r Lloyds o Dolobran, Sir Drefaldwyn. Roedd y teulu hwn yn Grynwyr Cymreig nodedig. Roedd un o'i hynafiaid, Thomas Lloyd (c. 1649–1694), yn ffigwr pwysig yn y mudiad Crynwyr a fudodd i America. Gadawodd Thomas Lloyd Gymru yn 1683 gan fwrw gwreiddiau yn Pennsylvania, lle daeth yn Llywydd y Cyngor Taleithiol a Dirprwy Lywodraethwr Pennsylvania.
Ffilmograffi
[golygu | golygu cod]- One Flew Over the Cuckoo's Nest
- Taxi
- Back to the Future
- Clue
- Who Framed Roger Rabbit
- Back to the Future Part II
- Back to the Future Part III
- DuckTales the Movie: Treasure of the Lost Lamp
- The Addams Family
- Addams Family Values
- Dennis the Menace
- Angels in the Outfield
- The Pagemaster
- Rent-a-Kid
- Angels in the Endzone
- Anastasia
- Alice in Wonderland
- My Favorite Martian
- Jack and the Beanstalk