Olivera Nikolova

Oddi ar Wicipedia
Olivera Nikolova
Ganwyd11 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Skopje Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGogledd Macedonia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol y Seintiau Cyril a Methodius, Skopje Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata

Awdures oedolion a phlant o Ogledd Macedonia yw Olivera Nikolova (ganwyd 11 Mawrth 1936) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a ystyrir yn un o brif nofelwyr ei gwlad. Fe'i ganed yn 1936 yn Skopje, prifddinas Gweriniaeth Macedonia.[1]

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Seintiau Cyril, Methodius a Skopje. Graddiodd o'r Gyfadran Athroniaeth yn Skopje, a gweithiodd fel ysgrifennwr sgrin ar gyfer rhaglenni radio a theledu.

Ymhlith ei llyfrau mwyaf poblogaidd i blant mae: Zoki Poki, sy'n glasur o fewn llenyddiaeth Macedonia, Y Wlad Lle Na Chyrhaeddwn, a dderbyniodd Wobr Nosweithiau Barddoniaeth Struga yn 1966, Y Ffrindiau Bon a Bona a dderbyniodd Wobr Struga yn 1975, Fy Sain, Cariadon Marko, Torr Calon ayb.[2][3][4]

Ymhlith ei llyfrau mwyaf poblogaidd i oedolion mae Diwrnod y Gwyliau Haf (storiau),[5] y comedi Silver Apple (Srebrenoto Jabolko), y nofelau Drws Cul[6] (Tesna Vrata; gwobr Stale Popov, 1983), Gweithiau Cartref,[7] Asen Adda[8] (Gwobr Racin, 2000), Amrywiaethau ar Gyfer Ibn Pajko,[9] Doliau Rositsa[10] (Nofel y Flwyddyn, 2004), yn ogystal â chyfrol o ddramâu, Silver Apple (Srebrenoto Jabolko),"Leva komora",[11] Mwg Gwyn (Beliot Čad),[12] Cartref Bychan (Kuќička) Enwebwyd ar gyfer Gwobr Balkanika 2011".[13]

Am gyflawniadau eithriadol mewn llenyddiaeth gyfoes i bobl ifanc, ym 1983 derbyniodd Wobr Zmaj, un o brif wobrau'r cyn-Iwgoslafia.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  2. ZEMJA VO KOJA NIKOGAS NE SE STIGNUVA, 1965 (Detska radost, Skopje).
  3. PRIJATELITE BON I BONA, 1974 (Makedonska kniga, Skopje).
  4. MOJOT ZVUK, 1977 (Detska radost, Skopje).
  5. DEN ZA LETUVANJE, collection of storied, 1964 (“Kultura”, Skopje)
  6. TESNA VRATA, nofel, 1983 ("Misla", Skopje) a gyfieithwyd i'r Slofeneg.
  7. DOMASNI ZADACI, nofel, 1989 ("Makedonska kniga", Skopje)
  8. ADAMOVOTO REBRO, nofel, 2000 ("Matica makedonska", Skopje)
  9. VEZBI ZA IBN PAJKO, nofel, 2001 ("Tri", Skopje) Cyfieithwyd i'r Tsieceg.
  10. KUKLITE NA ROSICA, nofel, 2004 ("Kultura", Skopje)
  11. LEVA KOMORA, 2008 ("Templum", Skopje)
  12. BELIOT ČAD, 2009 ("Ili-ili" Skopje)
  13. KUЌIČKA, 2012 ("Blesok" Skopje) Nominacija za nagradata Balkanika 2011