Olive Wharry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Olive Wharry
Olive-wharry.jpg
Ganwyd 1 Rhagfyr 1886 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Hydref 1947 Edit this on Wikidata (60 oed)
Torquay Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth Swffraget Edit this on Wikidata

Ffeminist ac arlunydd o Loegr oedd Olive Wharry (1 Rhagfyr 1886 - 2 Hydref 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét ac am losgi y Pafiliwn Paned yn Gerddi Kew. Fe'i carcharwyd, gyda'i chyd-ymgyrchydd Lilian Lenton .

Fe'i ganed yn Llundain ar 1 Rhagfyr 1886 a bu farw yn Torquay.[1]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Olive Wharry i deulu dosbarth canol yn Llundain, yn ferch i Clara (1855-1910, née Vickers) a Robert Wharry (1853-1935), meddyg; hi oedd unig blentyn priodas gyntaf ei thad. Roedd gan Wharry dri hanner-brawd iau a hanner chwaer o'r ail briodas.[2] Cafodd ei magu yn Llundain, yna symudodd y teulu i Ddyfnaint pan ymddeolodd ei thad. Ar ôl gadael yr ysgol daeth Wharry yn fyfyriwr celf yn Ysgol Gelf yn Exeter, ac yn 1906 teithiodd o amgylch y byd gyda'i thad a'i mham. Daeth yn weithgar yn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union) ym mis Tachwedd 1910. Bu hefyd yn aelod o Gynghrair yr Eglwys ar gyfer Etholfraint Merched (the Church League for Women's Suffrage).[3]

Ymgyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Tachwedd 1911 arestiwyd Wharry am gymryd rhan mewn ymgyrch chwalu ffenestri a drefnwyd gan WSPU, ac ar ôl cael ei ryddhau ar fechnïaeth wedi'i warantu gan Frederick Pethick-Lawrence a Mrs Saul Solomon, cafodd ei dedfrydu i ddau fis o garchar. Yn ystod y cyfnod hwn, a chyfnodau eraill yn y carchar, cadwodd lyfr lloffion sy'n cynnwys llofnodion cyd-swffragetiaid.[4][5]

Ym mis Mawrth 1912 arestiwyd Wharry eto ar ôl ei chael yn euog o dorri ffenestri ac fe'i dedfrydwyd i chwe mis o garchar yng Ngharchar Winson Green, Birmingham. Cymerodd ran mewn streic newyn ac fe'i rhyddhawyd ym mis Gorffennaf 1912, cyn cwblhau ei dedfryd. Yn Nhachwedd 1912 cafodd ei harestio fel "Joyce Locke", gyda thair Swffragettes arall yn Aberdeen ar ôl cymryd rhan mewn cyfarfod lle roedd y prifweinidog David Lloyd George yn siarad. Wedi iddi gael ei dedfrydu i bum niwrnod yn y carchar, llwyddodd i dorri ffenestri ei chell.[3][5]

Gerddi Kew[golygu | golygu cod y dudalen]

Poster c.1913

Ar 7 Mawrth 1913, yn 27 oed, anfonwyd hi a Lilian Lenton i Garchar Holloway am osod tân i'r pafiliwn te yng Ngerddi Kew, gan achosi difrod gwerth £900. Roedd perchnogion y pafiliwn (dwy wraig) wedi ei yswirio am £500 yn unig. Yn ystod yr achos llys yn yr Old Bailey fe'i dedfrydwy eto dan yr enw "Joyce Locke" ac roedd yn ystyried bod yr achos yn "jôc dda". Dywedodd ei bod hi a Lenton wedi gwirio bod y pafiliwn te yn wag cyn cynnau'r tân. Ychwanegodd ei bod wedi credu bod y pafiliwn yn eiddo i Frenhines Lloegr.[3]

Yn y carchar, aeth Wharry ar streic newyn am 32 diwrnod, gan drosglwyddo ei bwyd i garcharorion eraill, heb i'r wardeiniaid sylwi, yn ôl pob tebyg. Dywedodd Wharry fod ei phwysau wedi gostwng yn ystod ei chyfnod yn y carchar o 7 ston 11 pwys i 5 ston a 9 pwys (50 kg i 36 kg).[1][6]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]