Ocapi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Okapi)
Ocapi
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Giraffidae
Genws: Okapia
Lankester, 1901
Rhywogaeth: O. johnstoni
Enw deuenwol
Okapia johnstoni
(P. L. Sclater, 1901)

Carnolyn mawr cilgnöol a choedwigol o deulu'r jiráff yw'r ocapi (lluosog: ocapïod neu ocapïaid).[1] Mae'n byw yn y coedwigoedd glaw o gwmpas Afon Congo, sydd yng ngogledd-ddwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo. Doedd neb ond pobl leol yn gwybod am yr ocapi cyn 1901.

Mae bongorff yr ocapi yn frowngoch neu wineuddu gyda chylchau neu resi duborffor ac hufenlliw ar ei goesau a phedrain, a mae siâp ei gorff yn debyg i'r jiráff, heblaw am ei wddf sydd ddim mor hir. Fel y jiraff mae ganddo dafod glas hir i fael yn nail y coed. Mae'n bwyta amrywiaeth o blanhigion gan gynnwys glaswellt, rhedyn, ffrwythau a ffyngau. Mae tafod yr ocapi yn digon hir i sychu ei llygaid ei hyn ac mae gan y gwryw gyrn byr â chroen arnynt.

Mae corff yr ocapi tua 2m i 2.5m (7-8 troeddfedd) o hyd ac ei ysgwyddau tua 1.5m i 2m (5-6 troeddfedd) uwch. Maen nhw tua 200–250 kg (465-550 pwysau) trwm.

Mae ocapïod yn anifeiliaid y nos a maen nhw'n byw ar eu bennau eu hynain. Does dim ond un ifanc ar y pryd yn geni ar ôl beichiogrwydd sydd yn parhau am 421 i 457 dyddiau. Mae'r ifainc tua 16 kg (35 pwysau) trwm ac yn cael eu nyrsio am tua 10 mis. Ar ôl 4 neu 5 o flynyddoedd maen nhw'n oedolion.

Does dim perygl arnynt, ond mae eu cynefin yn cael ei dinistrio ac yn mynd yn llai. Mae problemau ar gyfer herwhela, hefyd. Gwaith cadwraeth yn y Congo mae'n cynnwys astwdiaeth bywyd yr ocapi ac ers 1992 oes gwarchodfa iddynt. Beth bynnag, roedd mewnrhyfel y Congo yn perygl i'r bywyd gwyllt yr ardal yn ogystal a'r pobl sydd yn gweithio ar gyfer cadwraeth.

Enwyd y rhywogaeth (O. johnstoni) ar ôl Syr Harry Johnston. Roedd e'n arweinio'r alldaith i'r Fforest Ituri ble mae'r ocapi yn byw ac yn dod yn ôl o'r ardal a'r sbesimen gwyddonol cyntaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 962 [okapi].