Offeryn statudol

Oddi ar Wicipedia

Mewn nifer o wledydd, math o ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu ddeddfwriaeth eilradd ydy offeryn stadudol.

Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod]

Offerynnau statudol yw'r prif fodd y caiff deddfwriaethau dirprwyedig neu eilradd eu creu yn y Deyrnas Unedig. Rheolir y broses o greu offerynnau statudol gan Ddeddf Offerynnau Statudol 1946.[1]

Yn sgil datganoli i'r Alban a Chymru yn 1999, trosglwyddwyd llawer o bwer i greu offerynnau stadudol i Lywodraeth yr Alban a Chynulliad CenedlaetholCymru. Bellach ystyrir offerynnau gan Lywodraeth yr Alban yn Offerynnau Statudol Albanaidd.

Yng Ngogledd Iwerddon, trefnir deddfwriaethay dirprwyedig gan reolau statudol, yn hytrach nag offerynnau statudol.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]