Oatman, Arizona

Oddi ar Wicipedia
Oatman, Arizona
Mathanghyfannedd, lle cyfrifiad-dynodedig Edit this on Wikidata
Poblogaeth102 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Mynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMohave County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd0.497371 km², 0.49737 km², 0.49737 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr826 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.0264°N 114.3836°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBlack Mountains Edit this on Wikidata
Map

Pentref ym Mynyddoedd Du yn Mohave County, yn nhalaith Arizona, Unol Daleithiau America, yw Oatman. Wedi'i leoli ar ddrychiad o 2,710tr (830m), fe ddechreuodd fel gwersyll mwyngloddio bychan, yn fuan ar ôl i ddau mwyngloddiwr daro darganfyddiad $10 miliwn o aur ym 1915, er bod pobl wedi ymdefydlu yn y cyffiniau ers nifer o flynyddoedd. Tyfodd poblogaeth Oatman i fwy na 3,500 mewn blwyddyn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Enw[golygu | golygu cod]

Ar ôl i ychydig o enwau eraill gael eu defnyddio, dewiswyd "Oatman" ar gyfer enw'r dref er anrhydedd i Olive Oatman, merch ifanc o Illinois a gymerwyd yn gaeth gan y brodorion yn ystod taith ei theulu i'r gorllewin ym 1851 a'i gorfodi i gaethwasiaeth. Yn ddiweddarach, cafodd ei gwerthu i Indiaid Mohave, a'i mabwysiadodd yn ferch a thatŵio ei hwyneb yn ôl eu arferion. Cafodd ei rhyddhau ym 1856 yn Fort Yuma, Arizona.[1]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Yn 1863, darganfyddod y mwyngloddiwr Johnny Moss aur yn y Mynyddoedd Du a gwnaeth sawl hawliad, un o'r enw'r Moss, ar ei ôl ei hun, ac un arall ar ôl Olive Oatman, yr oedd ei stori'n adnabyddus erbyn hynny. Am yr hanner canrif nesaf, prin iawn y llwyddodd y mwyngloddio yn yr ardal anghysbell, nes i dechnoleg newydd, costau cludo llai, a darganfyddiadau aur newydd ddod â ffyniant i Oatman yn gynnar yn yr 20g. Roedd agoriad mwynglawdd Tom Reed, ac yna darganfyddiad gwythien mwyn hynod gyfoethog o fewn eiddo United Eastern Mining Company gerllaw ym 1915, yn dod ag un o rhuthrau-aur olaf y wlad. Am oddeutu degawd, roedd mwyngloddiau Oatman ymhlith y cynhyrchwyr aur mwyaf yng Ngorllewin America.[2]

Ym 1921, llosgodd tân lawer o adeiladau bychan Oatman, ond cafodd "Gwesty Oatman" ei arbed. Wedi'i adeiladu ym 1902, mae Gwesty Oatman yn parhau i fod y strwythur pridd deulawr hynaf Sir Mohave ac yn adeilad hanesyddol. Mae'n arbennig o enwog fel arhosfan mis mêl Clark Gable a Carole Lombard [3] ôl eu priodas yn Kingman ar Fawrth 18, 1939. Syrthiodd Gable mewn cariad â'r ardal a byddai'n dychwelyd yn aml i chwarae poker gyda'r glowyr. Mae swît mis mêl Gable-Lombard yn un o brif atyniadau'r gwesty. Y llall yw Oatie yr ysbryd. Mae Oatie yn poltergeist cyfeillgar, y credir ei fod y William Ray Flour, glöwr Gwyddelig a fu farw y tu ôl i'r gwesty, yn ôl pob tebyg o ormod o alcohol. Ni ddarganfuwyd corff Flour tan ddeuddydd ar ôl ei farwolaeth, lle cafodd ei gladdu ar frys mewn bedd bas ger y man y daethpwyd o hyd iddo.

O fwyngloddio aur i dwristiaeth[golygu | golygu cod]

Merched Oatman, caethion yr Indiaid, 1857

Ym 1924, caeodd United Eastern Mines, prif gyflogwr y dref, yn barhaol ar ôl cynhyrchu gwerth $13,600,000 o aur (cywerth â $198,824,000) yn 2018) ar werth y farchnad a reolir gan y llywodraeth ar y pryd o $20 yr owns. Roedd yr ardal wedi cynhyrchu $40 miliwn (cywerth â $681,357,000 yn 2018) mewn aur erbyn 1941, pan orchmynnwyd i weddill gweithrediadau mwyngloddio aur y dref gael eu cau gan lywodraeth yr UDA fel rhan o ymdrech ryfel y wlad, gan fod angen metelau eraill heblaw aur. Roedd Oatman yn ffodus ei fod wedi'i leoli ar y Lwybr 66 prysur ac roedd yn gallu darparu ar gyfer teithwyr oedd yn gyrru rhwng Kingman a Needles, Califfornia. Ond byrhoedlog oedd y fantais honno hyd yn oed, gan fod y dref wedi'i hepgor yn llwyr ym 1953 pan adeiladwyd llwybr newydd rhwng Kingman a Needles. Erbyn y 1960au, roedd Oatman bron yn wag.

Tref fodern[golygu | golygu cod]

Mae Oatman wedi manteisio ar twristiaeth Llwybr 66 a thwf ffrwydrol tref hapchwarae gyfagos Laughlin, Nevada.

Mae gan Oatman hinsawdd anialwch, sy'n sylweddol yn oerach yn yr haf ac yn y gaeaf nag iseldiroedd Afon Colorado i'r gorllewin. Yn yr haf, er y gall Dyffryn Afon Colorado cyrraedd tymereddau ymhell uwchlaw 100 °F, mae Oatman yn aml 10 gradd neu fwy yn oerach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Blue Tattoo, the Life of Olive Oatman, by Margot Mifflin, 2009 ISBN 978-0803235175
  2. Paher, Stanley (1980). Northwestern Arizona Ghost Towns. Las Vegas: Nevada Publications. tt. 24–31. ISBN 0-913814-30-X.
  3. Varney, Philip (April 2005). "Mohave Ghosts". In Stieve, Robert (gol.). Arizona Ghost Towns and Mining Camps: A Travel Guide to History (arg. 10th). Phoenix, Arizona: Arizona Highways Books. tt. 39. ISBN 1-932082-46-8.