North Wales Weekly News
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol |
---|---|
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Ionawr 1909 |
Lleoliad | Gogledd Cymru |
Lleoliad cyhoeddi | Bae Colwyn |
Pencadlys | Bae Colwyn |
Papur newydd Saesneg wythnosol yw'r North Wales Weekly News sy'n cael ei ddosbarthu ar hyd arfordir Gogledd Cymru o Abergele i Lanfairfechan, gan gynnwys Dyffryn Conwy. Mae'n cael ei argraffu ar safle yng Nghyffordd Llandudno gyda swyddfa yn Llandudno, Sir Conwy. Roedd yn bapur anniybnnol yn y gorffennol ond erbyn hyn mae'n rhan o'r grwp Trinity Mirror, cyhoeddwyr y Daily Post a sawl papur newydd arall, gan cynnwys y Daily Mirror.
Chwaer-bapurau
[golygu | golygu cod]Mae ei chwaer-bapurau yn y rhanbarth yn rhan o'r is-gwmni 'Trinity Mirror North West & North Wales Limited' ac yn cynnwys:
- Abergele Visitor
- Bangor and Anglesey Mail
- Caernarfon Herald
- Denbighshire Visitor
- Flintshire Chronicle
- Holyhead and Anglesey Mail
- Rhyl Visitor
- Wrexham Chronicle
Mae'r papurau hyn yn rhannu erthyglau ond gyda erthyglau lleol ar gyfer y papurau unigol hefyd. Yn ogystal â'r papurau uchod mae'r grwp yn cyhoeddi Yr Herald Cymraeg yn wythnosol fel math o atodiad yn y Daily Post, ond cysgod o'r hen Herald ydyw, gyda dim ond 4 tudalen.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) "The North Wales Weekly News" ar wefan y Daily Post
- North Wales Weekly News ar Twitter