No Country for Old Men
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Joel Coen Ethan Coen |
Cynhyrchydd | Joel Coen Ethan Coen Scott Rudin |
Ysgrifennwr | Cormac McCarthy (nofel) Joel Coen Ethan Coen (sgript) |
Serennu | Tommy Lee Jones Javier Bardem Josh Brolin Woody Harrelson Kelly Macdonald |
Cerddoriaeth | Carter Burwell |
Sinematograffeg | Roger Deakins |
Golygydd | Roderick Jaynes |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | UDA: Miramax Films Tu allan i'r UDA:Paramount Vantage |
Dyddiad rhyddhau | 9 Tachwedd 2007 |
Amser rhedeg | 122 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg Sbaeneg |
Mae No Country for Old Men yn addasiad ffilm o 2007 o nofel Cormac McCarthy sydd a'r un enw. Cafodd y ffilm ei haddasu a'i chynhyrchu ar gyfer y sgrîn fawr gan Joel ac Ethan Coen. Mae Tommy Lee Jones, Javier Bardem, a Josh Brolin yn actio yn y ffilm.
Mae No Country For Old Men yn adrodd hanes dêl cyffuriau sy'n mynd o'i le a'r ddrama sy'n dilyn yn sgîl hynny, wrth i lwybrau'r tri prif gymeriad groesi ei gilydd yn anialdir Gorllewin Texas yn ystod y 1980au. Mae'r ffilm yn ymdrin â themâu fel ffawd ac amgylchiadau, themâu a astudiwyd gan y brodyr Coen yn eu gweithiau blaenorol Blood Simple a Fargo.