Nic Parry
Gwedd
Nic Parry | |
---|---|
Ganwyd | Niclas Iorwerth Parry ![]() 1957 ![]() Cymru ![]() |
Man preswyl | Llanbedr Dyffryn Clwyd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, cyfreithiwr, cyflwynydd chwaraeon ![]() |
Cyflwynydd teledu a barnwr o Gymru ydy Nic Parry (ganwyd 1957).[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Niclas Iorwerth Parry yn Helygain, Sir y Fflint.[2] Mynychodd Ysgol Glanrafon ac yna Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug.[3] Cafodd ei enwi ar ôl y sosialydd Niclas y Glais.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu Nic Parry'n cyflwyno rhaglen Sgorio ar S4C, cyn dod yn sylwebydd ar gemau rhyngwladol Cymru a gemau'r Cymru Premier JD.[4] Mae hefyd yn sylwebu ar chwaraeon ar gyfer y BBC yn Saesneg.[5]
Bu'n gweithio fel cofiadur rhan amser yn Llys y Goron ers 2001, gwnaethpwyd ef yn ustus Llys y Goron Gogledd Cymru yn 2010.[5] Ymddeolodd fel barnwr yn 2025 gyda'i ddiwrnod olaf ar 4 Ebrill 2025. Bu'n gweithio yn bennaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug.[6]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n byw yn Llanbedr Dyffryn Clwyd.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cofnod geni FreeBMD". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 6 Ebrill 2025.
- ↑ "List of Circuit Judges". Courts and Tribunals Judiciary (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-06.
- ↑ Gogledd Ddwyrain: Castle yn cyd-ddathlu gydag ysgol hanesyddol. BBC Lleol. Adalwyd ar 2 Mawrth 2010.
- ↑ Sgorio: Nic Parry. S4C. Adalwyd ar 2 Mawrth 2010.
- ↑ 5.0 5.1 Sport presenter Nic Parry made crown court judge. BBC (28 Chwefror 2010).
- ↑ "'Yr yrfa berffaith': Nic Parry yn ymddeol o'i swydd fel barnwr Llys y Goron". newyddion.s4c.cymru. 2025-04-06. Cyrchwyd 2025-04-06.
- ↑ "Nic Parry yn ymddeol fel barnwr cylchdaith wedi 15 mlynedd". BBC Cymru Fyw. 2025-04-07. Cyrchwyd 2025-04-07.