Ngũgĩ wa Thiong'o
| Ngũgĩ wa Thiong'o | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Ionawr 1938 Kamirithu |
| Bu farw | 28 Mai 2025 Buford |
| Dinasyddiaeth | Cenia |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | dramodydd, nofelydd, awdur ysgrifau, academydd, athronydd, ysgrifennwr |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | I Will Marry When I Want, Matigari ma Njiruungi, Weep Not, Child, Decolonising the Mind, The Upright Revolution: Or Why Humans Walk Upright, A Grain of Wheat |
| Plant | Mũkoma wa Ngũgĩ, Wanjikũ wa Ngũgĩ |
| Gwobr/au | Doctor honoris causa at University of Bayreuth, Lotus Prize for Literature, Gwobr Ryngwladol Nonino, doethur er anrhydedd Prifysgol Auckland, Grand Prix des mécènes, Gwobr Ryngwladol Catalwnia |
Nofelydd a dramodydd o Genia oedd Ngũgĩ wa Thiong'o (5 Ionawr 1938 – 28 Mai 2025).[1] Ysgrifennodd hefyd ar bynciau iaith a threfedigaethrwydd.
Ganwyd James Thiong'o Ngugi yn Limuru, Ardal Kiambu, Cenia.[2] Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Weep Not, Child, yn Saesneg pan oedd yn mynychu Prifysgol Leeds yn Lloegr. Cyhoeddwyd ym 1964.
Cyd-ysgrifennodd y ddrama I Will Marry When I Want gyda Ngugi Wa Mirii, gan feirniadu'r anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng nghymdeithas Cenia. Cafodd Ngũgĩ ei arestio wedi perfformiad o'r ddrama ym 1977 a'i gadw heb gyhuddiad yng Ngharchar Kamiti. Pan yn y carchar, penderfynodd Ngũgĩ ysgrifennu yn ei famiaith Gikuyu yn lle'r Saesneg. Treuliodd ei amser yn y carchar yn ysgrifennu'r nofel Caitani Mutharabaini ar bapur tŷ bach. Cafodd ei enwi'n garcharor gwleidyddol gan Amnest Rhyngwladol a'i ryddhau yn Rhagfyr 1978 yn sgil ymgyrch ryngwladol.[3]
Ers hynny mae Ngũgĩ wedi galw ar lenorion Affricanaidd eraill i ysgrifennu yn eu hieithoedd brodorol ac nid ieithoedd Ewropeaidd.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Ngugi Wa Thiong’o. Gwobr Booker. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Ngugi wa Thiong’o. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Rhagfyr 2013.
- ↑ (Saesneg) Ngugi Wa Thiong’o: A Profile of a Literary and Social Activist. ngugiwathiongo.com. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Mwangi, Evan (13 Mehefin 2009). Queries over Ngugi’s appeal to save African languages, culture. Daily Nation. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
