New Cutie Honey

Oddi ar Wicipedia
Clawr DVD 1994/5

Mae New Cutie Honey (新・キューティーハニー Shin Kyūtī Hanī, sydd wedi'i gyfieithu'n swyddogol yn New Super Android Cutey Honey neu New Cutey Honey) yn gyfres anime o Japan a gafodd ei gyhoeddi yn 1994, fel rhan o'r franchise "Cutie Honey" gan Go Nagai.

Cafodd y ffantasi erotig yma ei ysbrydoli gan y gyfres Cutie Honey cynharach a ymddangosodd ar y teledu yn 1973. Dyma'r unig Honey anime sydd wedi ymddangos yn yr Unol Daleithiau. OVA (original video animation) ydoedd o yn wreiddiol ar gyfer fideo yn y cartref. Cafodd y fersiynau ffil eu rhyddhau gan ADV Films yn yr UDA ac wedi eu gwerthu ym Mhrydain, Ffrainc, yr Eidal, Awstralia a Seland Newydd.

Mae'r stori'n dilyn yr arwres Honey Kisaragi a'i ffrindiau o deulu Hayami, wrth iddi baffio yn erbyn pobl ddrwg mewn dinas Cosplay. Robot android ydy Honey efo dyfais y tu mewn iddi sy'n caniatau iddi hi drawsffurfio i wahanol ffurffiau neu alw pwerau neu arfau iddi eu defnyddio nhw pan mae'n gweiddi "Honey Flash!" Roedd 8 episod yn y gyfres cyntaf, yr olaf yn 1995. Daeth DVD allan yn 2004.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]