Nesdi Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nesdi Jones
Ganwyd 11 Rhagfyr 1992 Edit this on Wikidata
Cricieth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata

Cantores a pherfformwraig bhangra o Gricieth yw Nesdi Jones (ganwyd Nest Aneurin Jones) sydd yn canu yn yr ieithoedd Hindi, Punjabi a Saesneg ac wedi cyrraedd rhif un yn siartiau cerddoriaeth India, Nigeria a Canada.[1][2].

Daeth yn gafarwydd a'r rapiwr a'r cynhyrchydd Yo Yo Honey Singh o India yn wreiddiol drwy wylio fideo o berfformiad ganddi hi o un o'i chaneuon.

Ym mis Mawrth 2016 darlledodd S4C raglen ddogfen amdani hi gan gwmni Antena o'r enw Seren Bhangra: Nesdi Jones.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]