Nel
| Enghraifft o: | ffilm deledu |
|---|---|
| Awdur | Meic Povey |
| Gwlad | |
| Dyddiad cyhoeddi | 1990 |
| Dechreuwyd | 1 Mawrth 1990 |
| Hyd | 86 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | Richard Lewis |
| Cwmni cynhyrchu | Opus |
| Cyfansoddwr | Euros Rhys Evans |
| Sinematograffydd | Huw Davies (Tregaron) |
| Dynodwyr | |
Ffilm Gymraeg yw Nel a grewyd gan Meic Povey ac a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar S4C ar ddydd Gŵyl Dewi 1990. Wedi'i lleoli yn harddwch Abergynolwyn yng nghanolbarth Cymru, mae'r ffilm yn adrodd hanes brawd a chwaer oedrannus sy'n anghytuno ynghylch dyfodol y fferm deuluol, ac yn seiliedig ar hanes teuluol Povey ei hun.[1] Ymhlith y cast mae Stewart Jones, Daniel Evans, Gwen Ellis, Dewi Rhys, Geraint Griffiths a Beryl Williams a enillodd wobr BAFTA Cymru am ei phortread o 'Nel' yn y seremoni gyntaf yng Nghaerdydd ym 1991.[2] Cyfarwyddwyd y ffilm gan Dic Lewis i Gwmni Opus.
Cast
[golygu | golygu cod]- Beryl Williams fel Nel
- Stewart Jones fel Robat
- Gwen Ellis fel Olwen
- Dewi Rhys fel Ellis
- Geraint Griffiths fel Tom
- Medi Evans fel Angharad
- Daniel Evans fel Gareth
- Nerys Nicholls fel Mererid
- Olwen Atkinson fel Nel ifanc
- Aled Price fel Y Milwr
Cynnwys
[golygu | golygu cod]
Mae Nel a'i bwli o frawd Robat, yn dal i fyw ar fferm y teulu "Drws y Coed" yn yr hen Sir Drefaldwyn. Hen ferch, ddi-briod, ddiniwed ydi Nel, sy'n cadw'r tŷ, tra bod ei brawd yn gwario arian y teulu ar gerbydau newydd, tra'n cynllunio i werthu'r fferm. Mae ganddo ei resymau dros wneud hynny, ei iechyd bregus, a chyngor y meddyg.

Ar ddydd Sul ynghanol y 1990au, mae nith y ddau 'Olwen' a'i theulu o Gaerdydd, yn penderfynu ymweld â'r fferm ar ôl "saith mlynedd", ac yn dychryn o ddarganfod bryntni Robat wrthi. Mae nai arall y ddau, Ellis, hefyd yn gwrthwynebu cynlluniau ei ewythr, a daw hi'n amlwg mai ef sy'n gyfrifol am roi gwybod i Olwen.
Bwriad Robat ydi gwerthu'r fferm a gorfodi Nel i symud i dŷ llai, "byngalo" yn y dref gyfagos. Mae'r fferm eisoes ar y farchnad, ac yn mynd i gael ei werthu drwy ocsiwn. Ond mae gan Nel gynlluniau cudd i roi terfyn ar ei bywyd, er mwyn rhoi diwedd ar bopeth.

Ofn colli cysylltiad â'r ardal mae Olwen, yn enwedig gan fod y teulu eisioes wedi gwerthu'r fferm lle'i ganwyd hi, "Bwlch y Garreg". Mae meddwl am golli "Drws y Coed" - "y cysylltiad teuluol olaf un", hefyd yn boen iddi. Ceisia Olwen orfodi Nel i wrthod symud, gan ei siarsio "mae gynno chi hawl i aros yma", ond mae'n amlwg mai gan Robat mae'r gair olaf.
Brithir y ffilm gydag atgofion Nel o'i phlentyndod, wrth iddi garu gyda llanc ifanc, a gorfod aberthu popeth er mwyn ei theulu a'r fferm.
Ar ddiwedd y ffilm, wedi ffrae fawr dros ginio Sul, mae Robat yn cael strôc, ac mae hynny'n newid popeth, gan ryddhau Nel o'i thynged.
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]
Ffilmiwyd y ddrama yn ardal Abergynolwyn, gyda'r cwmni cynhyrchu yn diolch i "drigolion yr ardal" am eu cyd-weithrediad. Meinir Jones-Lewis oedd yng ngofal y coluro, a Celia Pye y gwisgoedd. Gerald Murphy oedd cynllunydd y cynhyrchiad, gyda'r sinematograffi o dan ofal Huw Davies.
Defnyddiwyd "Cedris Farm" yn Abergynolwyn fel y prif leoliad.[1]

18 oed oedd yr actor Daniel Evans, pan gynhyrchwyd y ffilm.
Enillodd Meic Povey wobr BAFTA Cymru am y sgript orau ym 1991.[3]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cyfaddefodd Meic Povey yn ei hunangofiant bod y ffilm yn seiliedig ar hanes ei "Modryb Lena" a "Dewyrth Wil, brawd Dad, fu'n byw gydol ei oes ar ffarm Llwyn Dwyfog, Chwilog gyda Dewyrth George ei frawd, a Modryb Lena, ei chwaer".[1] Yn anffodus, ni chafodd Lena "achubiaeth yn y ril olaf", eglurodd Povey.[1]
"Penderfynodd Dewyth Wil werthu Llwyn Dwyfog ac ymddeol i Gricieth i fyw [...] Nid fod gan Modryb Lena ddewis yn y matar; byddai'n rhaid iddi hithau fynd i'w ganlyn. [...] Un bora, 13eg Chwefror 1987 a bod yn fanwl gywir, roedd John fy mrawd yn helpu Dewyth Wil ar y ffarm [...] Mae'n cofio gweld Modryb Lena yn ffenast y llofft yn sbio arno fo, yn sbio ar ei byd yn cael ei chwalu o flaen ei llygaid. [...] Pan ddychwelodd y ddau am ginio, o gwmpas yr hanner dydd, doedd dim golwg o Modryb Lena. Clywed griddfan wedyn o gyfeiriad y parlwr bach, a dwad o hyd iddi ar y soffa, a photel o strycnin, gwenwyn tyrchod, with ei hymyl."[1]
Soniodd Povey ddim wrth y teulu [nac ei dad] am ei fwriad o greu'r ffilm am y digwyddiad, ac fe "agorwyd hen glwyfau led y pen, a mawr fu'r ceryddu arnaf am beidio'i rybuddio o flaen llaw".[1]
Mae'r ffilm yn rhagflaenu drama lwyfan arall o waith Povey, Fel Anifail (1995) sy'n delio gyda'r un themâu, a'i oblygiadau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 5 6 Povey, Meic (2010). Nesa Peth i Ddim. Gwasg Carreg Gwalch.
- ↑ Dyfan Roberts (Tachwedd 2004). Beryl – Y Rhyfeddod Prin. Barn. Theatre in Wales. Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.
- ↑ "Yr actor a'r dramodydd Meic Povey wedi marw". BBC Cymru Fyw. 5 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 5 Hydref 2026.