Nebuchadnesar II
Roedd Nebuchodnesar II neu Nebuchadnezzar II (Cymraeg Beiblaidd: Nebuchodonosor [1]) (605 CC - 562 CC) yn frenin Babilon ym Mesopotamia (de Irac heddiw). Mae'n gymeriad pwysig yn yr Hen Destament.
Yn ystod ei ryfel yn erbyn teyrnas Judaea cipiodd Nebuchodnesar ddinas Jeriwsalem a'i dinistrio yn 586 CC. Gorfodwyd nifer o'r trigolion i fudo i Fesopotamia. Mae'r Iddewon yn galw'r cyfnod a dreuliasant yno yr Alltudiaeth Fabilonaidd. Yn ôl traddodiad cludwyd Arch y Cyfamod i Fabilon ganddo.
Ymhlith y carcharorion oedd Daniel. Enillodd Daniel rym a dylanwad ym Mabilon trwy egluro ystyr breuddwyd a gafodd y brenin am ddelwedd aur â thraed o glai (Dan 2:32-3). Gyda thri Iddew arall, Shadrach, Meshach ac Abednego, gwrthododd Daniel addoli'r delwedd aur a greuwyd ar orchymyn y brenin a goroesodd brofedigaeth y Ffwrnas Tanllyd (Dan 3:19-30). Tro arall anwybyddodd Nebuchodnesar ddadansoddiad Daniel o freuddwyd am goeden a dorwyd i lawr i'w bôn gan angel, a oedd yn golygu y byddai'r brenin yn cael ei ddarostwng os nad edifarheuai. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac yntau'n bostio am ei allu mawr, aeth Nebuchodnesar o'i gof. Aeth i grwydro yn yr anialwch gan fwyta gwair fel anifail gwyllt (Dan 4:33).
Roedd y gerddi crog enwog ym Mabilon a godwyd ar do palas y brenin, neu yn ei ymyl, yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.
Nebuchodnesar II yw'r cymeriad teitl yn opera Verdi Nabucco.
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Cyfieithiad o gyhoeddiad Porth Ishtar
- (Saesneg) Cyhoeddiad Porth Ishtar o gyfnod Nebuchodnesar
- ↑ Beibl Cymraeg 1620 Jeremiah 21:2 adalwyd 28, Tachwedd, 2018