Neidio i'r cynnwys

Nathaniel Williams

Oddi ar Wicipedia
Nathaniel Williams
Ganwyd1742 Edit this on Wikidata
Llanwinio Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1826 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, emynydd Edit this on Wikidata

Gweinidog, emynydd a llenor Cymraeg oedd Nathaniel Williams (174228 Rhagfyr 1826). Roedd yn gymeriad lliwgar a achosai gryn gynnwrf yn ei ddydd oherwydd ei ddaliadau diwiynyddol. Mae rhai o'i emynau megis 'O! rhwyga'r tew gymylau duon' yn cael eu canu o hyd.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Nathaniel Williams ym mhlwyf Llanwinio yn Sir Gaerfyrddin yn 1742. Daeth yn bregethwr ac wedyn yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Cyhoeddodd waith diwinyddol yn Saesneg yn amddiffyn syniadau diwinyddol dadleuol Peter Williams. Roedd yn awdur sawl emyn ac ymddangosodd detholiad ohonynt yn y gyfrol Ychydig Hymnau Newyddion yn 1787. Roedd ei ddiddordebau yn cynnwys meddygaeth a chyhoeddodd ddwy gyfrol ar y pwnc. Bu farw yn 1846.[1]

Roedd ei fab 'Twmi Nathaniel' yn faledwr traddodiadol.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Dialogue (1778). Diwinyddiaeth.
  • Darllen Dwfr a Meddyginiaeth (1785). Meddygol.
  • Ychydig Hymnau Newyddion (1787). Emynau.
  • Pharmacopoeia (1796). Meddygol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).