Natalya Sats
| Natalya Sats | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 Awst 1903 (yn y Calendr Iwliaidd) Irkutsk |
| Bu farw | 18 Rhagfyr 1993 Moscfa |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | Ymgeisydd i Gelf |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, ysgrifennwr, cyfarwyddwr cerdd, cyfarwyddwr opera, gohebydd gyda'i farn annibynnol, dramodydd, athro drama |
| Cyflogwr | |
| Tad | Ilya Sats |
| Priod | Israel Weitzer |
| Gwobr/au | Gwobr Gladwriaeth yr USSR, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd, Urdd y Chwyldro Hydref, Artist y Bobl (CCCP), Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Gwobr Lenin Komsomol, Artist Pobl yr RSFSR, Artist Haeddianol yr RSFSR, Gwobr Lenin, Gwobr Cyngor Gweinidogion yr Undeb Sofietaidd |
Awdures o Ymerodraeth Rwsia (ac yna Rwsia) oedd Natalya Il'inichna Sats (weithiu Natalia Satz; Rwsieg: Наталия Ильинична; 14 Awst 1903 - 18 Rhagfyr 1993) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr theatrau plant, awdur a chyfarwyddwr cerdd. Hi sefydlodd Theatr Gerdd Mocfa i Blant, sydd bellach wedi'i galw ar ei hôl. Ysgrifennodd dri llyfr: bygraffiad, Braslun o 'Mywyd a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1985; yn 2019, nid oedd cyfieithiad Cymraeg.
Fe'i ganed yn Irkutsk, Irkutsk Oblast, Rwsia ar 14 Awst 1903, bu farw ym Moscfa ac fe'i claddwyd ym Mynwent Novodevichy yn y ddinas honno, gyda'i thad.[1][2][3]
Bu'n briod i'r Iddew Israel Weitzer.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Sats yn Irkutsk, Ymerodraeth Rwsia, lle'r oedd ei thad, Ilya Sats, yn alltud gwleidyddol. Tyfodd Ilya Sats, cyfansoddwr, o dras Iddewig. Roedd yn ffrind ac yn amddiffwr brwd o'r awdur Leo Tolstoy (1828 – 1910).[4]:Ch.1 Mam Natalya oedd Anna Sats née Shchastnaya, merch gyffredinol o Wcrain; gadawoddd y cratref yn ferch ifanc i fod yn gantores broffesiynol ym Montpellier, dinas yn ne Ffrainc, lle cyfarfu ag Ilya Sats. Pan gafodd Ilya ei alltudio i Irkutsk, dilynodd Anna ef ac yn fuan rhoddodd enedigaeth i Natalya. Priododd y ddau wedi hynny. Symudodd y teulu i Moscfa yn 1904, pan ddaeth Ilya Sats yn gyfarwyddwr cerdd Theatr Gerdd Moscow.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ar ôl y Chwyldro Bolsieficiaid (neu 'Chwyldro'r Hydref) ym 1917, cynigiodd y Comisar Addysg Anatoly Lunacharsky sefydlu theatr i blant, ac argymhellodd cyfarwyddwr MAT, Konstantin Stanislavsky, y gallai Natalya Sats, yn 15 oed, gyflawni'r gwaith.[5] O dan gyfarwyddyd Lunacharsky, dechreuodd Sats gynhyrchu sioeau pypedau teithio ar lwyfanau dros dro o gwmpas Moscfa. Rhoddodd y llywodraeth adeilad iddi ym Moscow, yn theatr ar gyfer ei pherfformiadau. Yma sefydlodd ei hun fel cyfarwyddwr llwyfan a chynhyrchydd a dechreuodd ddenu sylw rhyngwladol. Gwahoddodd yr arweinydd Otto Klemperer yn 1931 hi i gyflwyno Le nozze di Figaro ('Priodas Figaro' gan Wolfgang Mozart) yn Buenos Aires, a Falstaff gan Giuseppe Verdi yn Berlin.[4][5]
Pedr a'r Blaidd
[golygu | golygu cod]Yn 1936, comisiynodd Sats waith a fyddai'n newid hanes cerddoriaeth i blant. Fel cyfarwyddwr Theatr Moscow i Blant, roedd Sats yn dymuno cynhyrchu drama a fyddai'n cyflwyno plant i offerynnau'r gerddorfa. Comisiynodd Sergei Prokofiev i gyfansoddi Pedr a'r Blaidd a gweithiodd yn agos gydag ef gan gyfrannu llawer o syniadau at y libretto (y geiriau). Perfformiodd Pedr a'r Blaidd am y tro cyntaf yn Theatr Ffilharmonig Moscfa ar 2 Mai 1936. Oherwydd salwch, nid oedd Sats yn gallu mynychu'r premiere hwn, nad oedd yn ôl Prokofiev yn llwyddiant. Fodd bynnag, tridiau'n ddiweddarach, llefarwyd rhan y storiwr gan Sats ym mherfformiad cyntaf y gwaith yn Theatr Moscfa i Blant. Bu'r ail berfformiad hwn yn llwyddiant ysgubol ac fe lansiodd y gwaith yn rhyngwladol. Aeth Peter a'r Blaidd, a gyflwynwyd i Sats, ymlaen i lwyddiant byd-eang. Cafodd ei recordio dros 400 o weithiau, a'i gyfieithu mewn llawer o ieithoedd.[4]
Carchar
[golygu | golygu cod]Fe'i carcharwyd am bum mlynedd gan ei bod yn perthyn i un a oedd 'yn frawdwr yn erbyn yr henwlad', ei gŵr.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Gladwriaeth yr USSR, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd, Urdd y Chwyldro Hydref, Artist y Bobl (CCCP), Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Gwobr Lenin Komsomol, Artist Pobl yr RSFSR, Artist Haeddianol yr RSFSR, Gwobr Lenin, Gwobr Cyngor Gweinidogion yr Undeb Sofietaidd .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 29 Awst 2025.
- ↑ Dyddiad marw: "Natalya Sats". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalja Iljinitschna Saz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: (yn ru) Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, 1969, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Sats, Natalia (1979). Sketches from my Life (yn Russian). Cyfieithwyd gan Syrovatkin, Sergei. Moscow: Raduga.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 5.0 5.1 Edwards, Bobb (2009-04-14). "Natalya Sats". Find a Grave. Cyrchwyd 30 Mehefin 2017.