Nant Cynnyd
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Nant yng Ngwynedd sy'n llifo i mewn i afon Glaslyn yw Nant Cynnyd.
Mae'n tarddu gerllaw Pen-y-gwryd, ac yn llifo tua'r de i lawr rhan uchaf Nant Gwynant, ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A498. Mae'n ymuno ag afon Twawsnant, yna ychydig yn is i lawr, yn ymuno ag afon Glaslyn, sy'n dod i lawr o Lyn Llydaw.