Nakano Takeko

Oddi ar Wicipedia
Nakano Takeko
Ganwyd1847 Edit this on Wikidata
Edo Edit this on Wikidata
Bu farw10 Hydref 1868 Edit this on Wikidata
Aizu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Galwedigaethonna-musha Edit this on Wikidata

Roedd Nakano Takeko (中野 竹子,, 18471868) yn filwr benywaidd (Japaneg: onna-bugeisha) o ardal Aizu yn nhalaith Fukushima ar ochr ddwyreiniol Japan. Fe'i ganed yn Nakano, yn ferch i un o swyddogion cymuned Aizu. Wedi ymladd caled bu farw yn Rhyfel y Boshin (1868 - 1869).

Cafodd ei hyfforddi mewn Crefft ymladd a chafodd ei mabwysiadu gan ei athro Akaoka Daisuke.[1] Gweithiodd gydag ef yn hyfforddi darpar filwyr eraill. Arbenigodd mewn ymladd gyda naginata (polyn hir gyda llafn metal siap lleuad) ac roedd yn gyfrifol am grwp ad hoc o ferched a oedd yn annibynnol o'r prif fyddin.[2] Yn ddiweddarach galwyd ei grwp hi o ymladdwyr yn 娘子隊 neu 'Jōshitai.

Pan oedd yn ymladd yn erbyn Byddin Ymerodrol Japan, neu'r Dai-Nippon Teikoku Rikugun saethwyd hi yn ei bron a thra roedd yn marw, trodd at ei chwaer Yūko a gofyn iddi dorri ei phen o'i chorff a'i gladdu. Gwnaeth hyn a chariwyd pen Onna-bugeisha i Deml Hōkai sydd heddiw'n cael ei alw yn Aizubange, Fukushima, lle claddwyd y pen dan goeden pinwydd. Gwnaeth hyn rhag ofn i'r gelyn dorri ei phen a'i arddangos ar bolyn.[3] Codwyd cerflun yn ddiweddar, yn y Deml, i'w chofio.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yamakawa, t. 63.
  2. Hoshi, t. 80.
  3. 3.0 3.1 Yamakawa, t. 64.
  • Hoshi Ryōichi (2006). Onnatachi no Aizusensō. Tokyo: Heibonsha.
  • Yamakawa Kenjirō; Munekawa Toraji (1926). Hoshū Aizu Byakkotai jūkyūshi-den. Wakamatsu: Aizu Chōrei Gikai.