Mynyddoedd Rwenzori

Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd Rwenzori
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dyffryn Hollt Mawr Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
Baner Wganda Wganda
Arwynebedd1,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr5,109 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau0.3858°N 29.8717°E Edit this on Wikidata
Hyd120 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig fetamorffig Edit this on Wikidata

Mynyddoedd yng nghanolbarth Affrica, ar y ffîn rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac Wganda yw Mynyddoedd Rwenzori. Newidiwyd yr enw o Mynyddoedd Ruwenzori tua 1980, i gyfateb a'r sillafiad brodorol. Mae'n cynnwys rhai o gopaon uchaf cyfandir Affrica, gyda'r copa uchaf, mynydd Stanley, yn cyrraedd 5,109 m uwch lefel y môr. Y mynyddoedd yma, ynghyd â Mynydd Kilimanjaro a Mynydd Cenia, yw'r unig gopaon yn Affrica lle ceir eira parhaol.

Cred llawer mai'r Rwenzori yw'r mynyddoedd a alwodd y daearyddwr Groegaidd Ptolemi yn "Fynyddoedd y Lleuad", ac fe'i gelwir yn aml wrth yr enw yma; Mountains of the Moon yn Saesneg. Fodd bynnag, nid oes prawf mai'r rhain yw'r mynyddoedd yr oedd Ptolemi yn cyfeirio atynt.

Saif y mynyddoedd ar ochr Dyffryn Hollt Dwyrain Affrica, rhan o'r Dyffryn Hollt Mawr. Maent yn ymestyn am tua 120 km, ac yn 65 km o led. Y prif gopaon yw Mynydd Stanley (5,109m), Mynydd Speke (4,890m), Mynydd Baker (4,843m), Mynydd Emin (4,798m), Mynydd Gessi (4,715m) a Mynydd Luigi di Savoia (4,627m). Gwelwyd y mynyddoedd gan Ewropeaid am y tro cyntaf yn ystod taith fforio Henry Morton Stanley.

Ceir amrywiaeth ddiddorol o blanhigion ac anifeiliaid yn y mynyddoedd hyn, ac mae rhan helaeth ohonynt yn awr yn Safle Treftadaeth y Byd. Crewyd Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Rwenzori yn Wganda, a Pharc Cenedlaethol Virunga yn y Congo.