Mynydd Stanley
Gwedd
| Math | masiff |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Henry Morton Stanley |
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Virunga National Park |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 5,109 metr |
| Cyfesurynnau | 0.3858°N 29.8717°E |
| Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Rwenzori |
![]() | |
Mynydd ym Mynyddoedd Rwenzori yng nghanolbarth Affrica, ar y ffin rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac Wganda yw Mynydd Stanley. Mae'n cynnwys nifer o gopaon; mae'r uchaf o'r rhain, Copa Margherita, yn cyrraedd 5,109 m uwch lefel y môr.
Mynydd Stanley yw'r copa uchaf yn Wganda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, a'r trydydd uchaf yn Affrica ar ôl Mynydd Kilimanjaro a Mynydd Cenia. Mae'n un o'r ychydig gopaon yn Affrica lle ceir eira parhaol.
Enwyd y mynydd ar ôl Henry Morton Stanley. Yn ystod ei daith fforio ef yn 1889 y gwelwyd y mynyddoedd hyn gan Ewropeaid am y tro cyntaf.
