Mynydd Cenia
Gwedd
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dyffryn Hollt Mawr, Seven Second Summits |
Gwlad | Cenia |
Uwch y môr | 5,199 metr |
Cyfesurynnau | 0.1°S 37.2°E |
Amlygrwydd | 3,825 metr |
Cadwyn fynydd | Kilimanjaro |
Deunydd | syenite |
Mynydd uchaf Cenia, a'r ail-uchaf yn Affrica (ar ôl Mynydd Kilimanjaro), yw Mynydd Cenia. Mae gan y mynydd nifer o gopaon; yr uchaf yw Batian (5,199 m), Nelion (5,188 m) a Lenana (4,985 m). Saif y mynydd yn ucheldiroedd canolbarth Cenia, ychydig i'r de o'r gyhydedd a tua 150 km i'r gogledd-ddwyrain o Nairobi.
Crëwyd Parc Cenedlaethol Mynydd Cenia i warchod yr ardal o amgylch y mynydd, ac mae'r parc wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.