Myles Dillon
Myles Dillon | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ebrill 1900 Dulyn |
Bu farw | 18 Mehefin 1972 Dulyn |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, ieithegydd, Celtegwr |
Cyflogwr |
|
Tad | John Dillon |
Mam | Elizabeth Dillon |
Priod | Elizabeth Mary La Touche |
Plant | John M. Dillon, Katherine Dillon, Elizabeth Dillon, Robert Peter Dillon, Andrew James Dillon |
Perthnasau | Fergus Kelly |
Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Myles Dillon (11 Mai 1900 — 18 Mehefin 1972).
Ganed Myles Dillon yn ninas Dulyn; yn fab i John Dillon a'i wraig Elizabeth Mathew. Roedd James Matthew Dillon, arweinydd Fine Gael, yn frawd iddo. Graddiodd o Goleg Prifysgol Dulyn, cyn teithio i'r Almaen a Ffrainc, lle bu'n astudio dan Joseph Vendryes a Rudolf Thurneysen. Bu'n darlithio mewn Sanskrit ac ieitheg gymhaol yn Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1928 hyd 1930), yna'n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol hyd 1937. Yn y frlwyddyn honno, symudodd i'r Unol Daleithiau, lle bu'n dysgu Gwyddeleg ym Mhrifysgol Madison ac yna yn Chicago, Wedi dychwelyd i Iwerddon, bu'n gweithio yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd y Dublin Institute for Advanced Studies, lle bu'n Gyfarwyddwr o 1960 hyd 1968. Bu'n olygydd y cylchgrawn Celtica.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- The Cycles of the Kings OUP, 1946; rep. Four Courts Press 1994)
- Early Irish Literature Chicago, 1948; rep. 1969; rep. Four Courts Press 1994
- Early Irish Society Dulyn 1954 (gol.)
- Irish Sagas 1959, reps. 1968, 1985, 1996
- The Book of Rights Dulyn 1962
- The Celtic Realms (gyda Nora Chadwick),1967
- Celts and Aryans Simla 1975