Mwynlif

Oddi ar Wicipedia
Mwynlif
Mathgwastraff diwydiannol, deunydd amgylcheddol anthropogenig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn mwyngloddio, mwynlif (Saesneg: tailings) yw'r defnyddiau sy'n weddill ar ôl y broses o wahanu'r ffracsiwn gwerthfawr o fwynau oddi wrth y ffracsiwn aneconomaidd. Mae mwynlif yn wahanol i orlwyth, sef y graig wastraff neu ddeunydd arall sy'n gorwedd dros y mwyn neu'r mwynau ac sy'n cael ei ddadleoli yn ystod mwyngloddio heb gael ei brosesu.

Gellir echdynnu mwynau mewn dwy ffordd: mwyngloddio ponc dywod (Saesneg: placer mining) sy'n defnyddio dŵr a disgyrchiant i grynhoi'r mwynau gwerthfawr, neu fwyngloddio creigiau caled, sy'n malurio'r graig sy'n cynnwys y mwyn ac yna'n dibynnu ar adweithiau cemegol i grynhoi'r deunydd mewn un lle. Yn yr olaf, mae angen pylori'r mwynau, hy, malu'r mwyn yn ronynnau mân i hwyluso echdynnu'r elfennau a geisir. Oherwydd pyloriant, mae mwynlifau'n cynnwys slyri neu uwd o ronynnau mân, yn amrywio o faint gronyn o dywod i ychydig ficrometrau. Fel arfer cynhyrchir mwynlif o'r felin ar ffurf slyri, sy'n gymysgedd o ronynnau mwynol mân a dŵr.[1]

Gall mwynlifau fod yn ffynonellau peryglus o gemegau gwenwynig fel metalau trwm, sylffidau a chynnwys ymbelydrol. Mae'r cemegau hyn yn arbennig o beryglus pan gânt eu storio mewn dŵr pyllau y tu ôl i argaeau mwynlifol.  Gall yr argaeau hyn dorri neu ollwng, gan achosi trychinebau amgylcheddol. Oherwydd y rhain a phryderon amgylcheddol eraill megis gollyngiadau dŵr daear, allyriadau gwenwynig a marwolaethau adar, mae 'r mwynlif a phyllau mwynlifol yn aml yn cael eu monitro'n ofalus iawn. Mae sawl dull o adennill gwerth economaidd o'r mwynlifau yma, ondl ar draws y byd, dulliau hyn yn wael, ac weithiau'n torri hawliau dynol. Er mwyn lleihau'r risg o niwed, sefydlwyd safon gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer rheoli mwynlifau yn 2020.[2]

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Mwynau sylffid[golygu | golygu cod]

Mae'r elifiant o'r mwynlif a grewyd gan gloddio mwynau sylffidig wedi'i ddisgrifio fel "y perygl amgylcheddol mwyaf o fewn y diwydiant mwyngloddio".[3] Mae'r cynffonnau, nentydd, neu argaeau hyn o fwynlifau'n cynnwys llawer iawn o byrit (FeS 2) a sylffid Haearn(II) (FeS), sy'n cael eu gwrthod a'u gwahanu o'r copr a'r nicel gwerthfawr, yn ogystal â glo. Er eu bod yn ddiniwed o dan y ddaear, mae'r mwynau hyn yn adweithiol tuag at aer ym mhresenoldeb micro-organebau, ac os na chânt eu rheoli'n iawn yna gallant arwain at droi'n un llif o asid. .

Nant llifwynol, yn mewn pwll asid o ganlyniad i gloddio am lo ar yr wyneb

Amcangyfrifir bod rhwng 100 miliwn a 280 miliwn tunnell o wastraff ffosffogypsum yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol o ganlyniad i brosesu craig ffosffad ar gyfer cynhyrchu gwrtaith ffosffad.[4] Yn ogystal â bod yn ddiwerth ac yn helaeth, mae ffosffogypsum yn ymbelydrol oherwydd presenoldeb wraniwm a thoriwm sy'n digwydd yn naturiol, a'u hisotopau. Gall echdynnu'r wraniwm yma fod yn broffidiol yn economaidd a gall leihau'r niwed y mae metelau trwm ymbelydrol yma'n ei wneud i'r amgylchedd.

Alwminiwm[golygu | golygu cod]

Mae mwynlifau bocsit yn is-gynnyrch gwastraff y broses o gynhyrchu alwminiwm yn ddiwydiannol. Mae gwneud darpariaeth ar gyfer yr oddeutu 77 miliwn o dunelli a gynhyrchir yn flynyddol yn un o'r problemau mwyaf i'r diwydiant mwyngloddio alwminiwm.[5]

Mwd coch[golygu | golygu cod]

Mae mwd coch, a elwir bellach yn 'weddillion bocsit' yn amlach, yn wastraff diwydiannol a gynhyrchir wrth brosesu bocsit yn alwmina gan ddefnyddio proses Bayer. Mae'n cynnwys cyfansoddion ocsid amrywiol, gan gynnwys yr ocsidau haearn sy'n rhoi'r lliw coch iddo. Cynhyrchir dros 95% o'r alwmina yn fyd-eang trwy broses Bayer; am bob tunnell o alwmina a gynhyrchir, cynhyrchir tua 1 i 1.5 tunnell o fwd coch hefyd. Yn 2020 yn unig, cynhyrchwyd dros 133 miliwn o dunelli o alwmina, gan arwain at gynhyrchu dros 175 miliwn tunnell o fwd coch.

Hawliau dynol[golygu | golygu cod]

Fel gyda atomfeydd niwclear, mae gwaddodion mwynlifau'n dueddol o gael eu lleoli mewn ardaloedd gwledig neu'n agos at gymunedau ymylol, megis cymunedau brodorol. Mae'r Safon Diwydiant Byd-eang ar Reoli Mwynlifau'n argymell bod "angen proses gwerthuso hawliau dynol i adnabod a mynd i'r afael â'r bobl sydd yn y perygl mwyaf."[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Zvereva, V. P.; Frolov, K. R.; Lysenko, A. I. (2021-10-13). "Chemical reactions and conditions of mineral formation at tailings storage facilities of the Russian Far East". Gornye Nauki I Tekhnologii = Mining Science and Technology (Russia) 6 (3): 181–191. doi:10.17073/2500-0632-2021-3-181-191. ISSN 2500-0632. https://mst.misis.ru/jour/article/view/289.
  2. "Mining industry releases first standard to improve safety of waste storage". Mongabay Environmental News (yn Saesneg). 2020-08-06. Cyrchwyd 2021-04-16.
  3. Nehdi, Moncef; Tariq, Amjad "Stabilization of sulphidic mine tailings for prevention of metal release and acid drainage using cementitious materials: a review" Journal of Environmental Engineering and Science (2007), 6(4), 423–436. doi:10.1139/S06-060
  4. Tayibi, Hanan; Choura, Mohamed; López, Félix A.; Alguacil, Francisco J.; López-Delgado, Aurora (2009). "Environmental Impact and Management of Phosphogypsum". Journal of Environmental Management 90 (8): 2377–2386. doi:10.1016/j.jenvman.2009.03.007. PMID 19406560.
  5. Ayres, R. U., Holmberg, J., Andersson, B., "Materials and the global environment: Waste mining in the 21st century", MRS Bull. 2001, 26, 477. doi:10.1557/mrs2001.119
  6. "Global Industry Standard on Tailings Management – Global Tailings Review". globaltailingsreview.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-16. Cyrchwyd 2021-04-16.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: mwynlif o'r Saesneg "tailings". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.