Muna Handal-Dayeh
Muna Handal-Dayeh | |
---|---|
Ganwyd | 1957 Gwladwriaeth Palesteina |
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Galwedigaeth | person busnes |
Mae Muna Handal-Dayeh yn ddynes fusnes Palesteinaidd-Americanaidd, sydd hefyd yn entrepreneur, ac yn llywydd Cymdeithas Bethlehem, sefydliad sy'n dwyn ynghyd bobl o Ogledd America a rhannau eraill o'r byd gyda'u gwreiddiau teuluol yn ninas Bethlehem, yn y Lan Orllewinol o Balesteina.
Ganwyd Handal-Dayeh ym 1957, a gadawodd Balestina gyda'i theulu yn chwe mis oed. Fe symudodd y teulu i'r Unol Daleithiau, a magwyd Handal-Dayeh ym Milwaukee, Wisconsin, a San Diego, Califfornia. Gweithiodd gyntaf yn y diwydiant electroneg, cyn cychwyn ei chwmni ei hun ym 1992.
Roedd Handal-Dayeh hefyd yn aelod sefydlol o'r Pwyllgor Gwrth-wahaniaethu Americanaidd-Arabaidd, ac mae'n parhau i eistedd ar ei fwrdd, yn ogystal â dal swydd fel llywydd Cymdeithas Bethlehem .