Muhammad al-Badr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Muhammad al-Badr
Imam Badr.jpg
Ganwyd 15 Chwefror 1926 Edit this on Wikidata
Sana'a Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Awst 1996 Edit this on Wikidata (70 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Iemen Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd king of Mutawakkilite Kingdom of Yemen, Imam of Yemen Edit this on Wikidata
Tad Ahmad bin Yahya Edit this on Wikidata
Plant Ageel bin Muhammad al-Badr Edit this on Wikidata
Llinach Al Qasimi Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata

Arweinydd crefyddol, gwleidyddol a milwrol o Iemen oedd Muhammad al-Badr bin Ahmad Hamid al-din (15 Chwefror 1926 – 6 Awst 1996) a deyrnasodd yn frenin ar y Deyrnas Mutawakkilaidd (Gogledd Iemen) am gyfnod byr ym 1962.

Ganwyd yn Hajjah yn ngogledd-orllewin Iemen, yn fab i Sayf al-Islam Ahmad, llywodraethwr ar ran yr Imam Yahya, a Sharifa Safiyya bint Muhammad o'r teulu sayyid al-Issi o Shahara. Symudodd Muhammad i Taizz ym 1944, ac yno y bu ei dad yn ddirprwy yr Imam. Llofruddiwyd yr Imam Yahya ym 1948. Dychwelodd ei dad, Sayf al-Islam Ahmad, i Hajjah ac yno fe gasglodd y llwythau a datganodd ei hunan yn Imam al-Nasir. O fewn un mis o farwolaeth Yahya, llwyddodd al-Nasir i gipio'r brifddinas Sana'a a dienyddio'r gwrthryfelwyr. Cymerodd Muhammad yr enw Sayf al-Islam al-Badr, a chafodd ei benodi yn ddirprwy ei dad ym mhorthladd Hodeida ym 1949 ac hefyd yn weinidog mewnwladol. Ym 1955, chwaraeodd ran wrth gwastrodi gwrthryfel ei ewythr, Sayf al-Islam Abdullah, a chafodd al-Badr ei ddatgan yn Dywysog Coronog. Gwasanaethodd yn swyddi gweinidog materion tramor a dirprwy ei dad dros Sana'a. Cafodd yr Imam Ahmad ei anafu'n ddifrifol mewn ymgais i'w lofruddio ym Mawrth 1961, ac felly cymerodd ei fab yr awenau dros y llywodraeth.[1]

Bu farw Ahmad ar 19 Medi 1962, a chafodd Muhammad ei ddatgan yn Imam al-Mansur Muhammad al-Badr, Brenin y Deyrnas Mutawakkilaidd.[1] Wythnos yn ddiweddarach, cafodd ei balas Dar al Bashair ei sielio gan chwyldroadwyr a sefydlasant Gweriniaeth Arabaidd Iemen ar 27 Medi. Llwyddodd al-Badr i ddianc a ffoi i'r gogledd. Cafodd gefnogaeth gan y llwythau Zaydi Shia, a'i alwodd yn Amir al-Mumineen ("Tywysog y Ffyddlon"). Enillodd gefnogaeth hefyd gan ei ewythr Sayf al-Islam al-Hasan a thywysogion y teulu Hamid al-Din. Cafodd y chwyldro a'r rhyfel ei gefnogi gan yr Aifft.

Parhaodd rhyfel cartref am 8 mlynedd, a brwydrodd al-Badr ochr yn ochr â'i ryfelwyr. Ym 1967 symudodd allan o'i bencadlysoedd ym mynyddoedd gogledd Iemen i Taif yn Sawdi Arabia. Ym 1970 cafodd Gweriniaeth Arabaidd Iemen ei chydnabod yn swyddogol gan lywodraeth Sawdi Arabia, er yr oedd mwyafrif o diriogaeth Iemen dan reolaeth al-Badr a theulu Hamid al-Din. Trodd al-Badr ei gefn ar Sawdi Arabia felly a symudodd i Loegr, a bu'n byw yng Nghaint. Dychwelodd i Sawdi Arabia i ymweld â dinasoedd sanctaidd Mecca a Medina ac i gwrdd â theulu a chyfeillion. Priododd teirgwaith,a chafodd dau fab a dwy ferch.[1] Bu farw yn Llundain yn 70 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) A. B. D. R. Eagle, Obituary: Imam Muhammad al-Badr, The Independent (13 Awst 1996). Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2017.