Mosg Umm al-Nasr

Oddi ar Wicipedia
Mosg Umm al-Nasr
Enghraifft o'r canlynolmosg Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Dechrau/Sefydlu1239 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina, Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthBeit Hanoun, Llain Gaza Edit this on Wikidata

Umm al-Nasr Mosg (Arabeg: مسجد أم النصر‎; cyfː "Mam Buddugoliaethau") neu weithiau Fosg Beit Hanoun yw'r mosg hynaf yn ninas Beit Hanoun yn Llain Gaza, Palestina. Mae wedi'i leoli yng nghanol y ddinas.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Mosg Umm al-Nasr yn 1239 gan yr Ayyubidiaid i goffáu eu milwyr a fu farw mewn brwydr ar safle'r mosg yn erbyn y Croesgadwyr Ewropeaidd. Yr Ayyubids oedd yn fuddugol, a bathwyd yr enw Umm al-Nasr ("Mam Buddugoliaethau") i gofio'r frwydr.[1][2] Mae'r arysgrif ar y wal uwchben mynedfa'r mosg yn priodoli'r gwaith adeiladu i swltan al-Adil II, o genedl yr Ayyubid [3]

Nid oedd y frwydr sy'n cael ei choffáu yn un fawr, ond yn hanes y Croesgadau diweddarach roedd yn arwyddocaol iawn. Mae'r hanesydd Eifftaidd al-Maqrizi yn sôn bod y frwydr wedi digwydd ar 13 Tachwedd 1239 ac wedi gorffen gyda buddugoliaeth o’r Aifft (Ayyubid). Caiff hyn ei gadarnhau yn adroddiadau'r Croesgadwyr a honiad al-Maqrizi fod y Ffrancwr Harri Iarll y Bar, ynghyd â 1,000 o’i ddynion wedi’u lladd yn yr frwydr, a bod 600 wedi’u cymryd yn garcharorion, a bod y mwyafrif ohonynt wedi’u lladd gan eu caethyddion ar y ffordd i’r Aifft.[4]

Byddin Israel yn chwalu'r mosg yn 2006[golygu | golygu cod]

Ar 3 Tachwedd 2006 cafwyd brwydr arall, y tro hwn, rhwng byddin Israel a Phalesteiniaid o fewn y mosg. Dinistriwyd y mosg yn llwyr gan daflegrau Israel, a'r unig strwythur heb ei gyffwrdd oedd y portico deheuol, sef cromen bas yng nghanol y mosg. Saethodd milwyr Israel bron i 40 o ferched Palesteinaidd a oedd yn gorymdeithio i amddiffyn y mosg a lladdwyd dwy.[5] Condemniwyd gweithredoedd Israel gan y Cenhedloedd Unedig.[6]

Pensaernïaeth[golygu | golygu cod]

Roedd y mosg gwreiddiol yn cynnwys un ystafell fawr, gyda chromen syml, wedi'i hadeiladu o gerrig crai, wedi treulio.[7] Nid oes unrhyw beth ar ôl o'r mosg gwreiddiol ar wahân i'r portico deheuol gyda'i do - sy'n cynnwys claddgelloedd a chromen fas yn y canol. Mae'r neuadd weddi yn gorffen gydag ystafell i'r dwyrain gyda tho cromen wedi'i chynnal ar drionglau sfferig. Mae'r plât sylfaen wedi'i arysgrifio mewn sgript nasyki Ayyubid.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Beit Hanoun - Gaza Archifwyd 2013-10-05 yn y Peiriant Wayback. This Week in Palestine.
  2. Filfil, Rania.The Other Face of Gaza: The Gaza Continuum Archifwyd 2009-02-07 yn y Peiriant Wayback. This Week in Palestine.
  3. Sharon, 1999, p. 101
  4. Sharon, 1999, pp. 102 -103
  5. Myre, Greg. Israel Kills 2 Women During Mosque Siege New York Times. 2006-11-03.
  6. UNRWA strongly condemns Israeli military operations in Beit Hanoun Archifwyd 2007-09-23 yn y Peiriant Wayback. United Nations. 2006-11-08.
  7. 7.0 7.1 Sharon, 1999, p. 98

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Sharon, M. (1999). Corpus Inscriptionum Arabicarum Palaestinae,. II, B-C. BRILL. ISBN 9004110836.