Moliannwn
Cân werin Gymraeg yw Moliannwn. Cân o foliant ydyw i groesawu'r gwanwyn. Ysgrifennodd Benjamin Thomas (1838-1920)[1][2] y geiriau Cymraeg ac mae hi'n cael ei chanu i'r alaw gwerin Americanaidd The Old Cabin Home gan T. Paine (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1858).[3]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae'r gân yn boblogaidd mewn tafarndai yng Nghymru, ac wedi'i pherfformio mewn gwyliau yng Nghymru a ledled y byd.
Mae sawl fersiwn wedi'i recordio gan artistiaid gan gynnwys Ryan Davies, DJ SG, Cerddorfa Ukulele, Ghazalaw, Gwerinos, Yr Hennessys, Dafydd Iwan, Tammy Jones, Cerys Matthews, Mynediad Am Ddim a'r Anfarwol Bob Tai'r Felin.[4]
Geiriau
[golygu | golygu cod]
Nawr lanciau rhoddwn glod, |
Themau
[golygu | golygu cod]Mae rhai wedi tynnu sylw at gyfeiriadau yn y gân sydd ddim yn gyfarwydd iawn yng Nghymru fel tystiolaeth o'i darddiad yn yr Unol Daleithiau: yr aderyn Whip-ar-Wîl sydd yn gynhenid i Ogledd America a "llynffantod wrth y fil / O'r goedwig yn mwmian chwibanu". [6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Moliannwn y bardd o Fethesda gan J. Elwyn Hughes, Llyfrau'r Faner 1978
- ↑ http://worldcat.org/identities/lccn-n79028452/
- ↑ https://digitalcommons.conncoll.edu/sheetmusic/1145/
- ↑ https://www.discogs.com/search?q=Moliannwn&type=all
- ↑ http://www.meucymru.co.uk/music/Songs/Caneuon.html
- ↑ https://slatevalleymuseum.wordpress.com/2011/04/03/moliannwn-lets-rejoice