Moelni (cerdd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cerdd yw Moelni gan y bardd T.H Parry Williams ar ffurf soned. Mae'r soned wedi ei rannu i chwechawd ag wythawd, yn yr wythawd mae'r bardd yn trafod ei blentyndod yn Eryri ac yn lleoli'r gerdd. Fe gawn folta yn llinell wyth, sy'n newid agwedd y gerdd gan fod y bardd yn dechrau cwestiynu tragwyddoldeb a thrafod os oes bywyd ar ôl marwolaeth. Fe ddaw'r gerdd i uchel bwynt yn y darn hwn.

Mae'r gerdd yma'n un enwog sydd wedi uniaethu a llawer o bobl Cymraeg oherwydd ei chyffyrddiad a sawl thema, er enghraifft cariad at fro mebyd neu ystyr tragwyddoldeb. Mae'r bardd yn ceisio i symud y darllenwr a'i gerdd ac yn gwneud iddo uniaethu a fe.

Mae'r bardd yn trafod y berthynas rhwng bywyd a marwolaeth ag yn cwestiynu os fyddo dal o gwmpas ar ôl iddo farw.

Agwedd Y Bardd Yn Y Gerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r bardd yn creu wythawd negyddol i ddechrau'r gerdd, ond mae'r chwechawd yn llawer mwy gobeithiol ac yn dangos fod y bardd heb golli holl ffydd.

Dyfyniadau Pwysig[golygu | golygu cod y dudalen]

"Nid oedd ond llymder anial byd di-goed."

"Ac os bydd peth o'm defnydd yn y byd."

"Ni welir arno lun na chynllun chwaith, dim ond amlinell lom y moelni maith."

Y Bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

T.H Parry Williams yw un o feirdd enwocaf yr ugeinfed ganrif, roedd ei farn a'i awgrymiadau yn cael ei ddangos yn glir yn ei gerddi, fel sydd i'w weld yn y gerdd hon. Mae'r bardd yn trafod ei fagwraeth negyddol yn Eryri yn y gerdd hon. Fe wnaeth ei fagwraeth negyddol wedi ei ysbrydoli i farddoni'r gerdd hon.