Moel yr Ogof
Gwedd
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Moel Hebog |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 655 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0086°N 4.1534°W |
| Cod OS | SH5562547864 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 118 metr |
| Rhiant gopa | Moel Hebog |
| Cadwyn fynydd | Moel Hebog |
![]() | |
Mynydd yn Eryri, rhwng Beddgelert a Chwm Pennant yw Moel yr Ogof. Mae'n rhan o'r grib sy'n cyrraedd ei phwynt uchaf ar gopa Moel Hebog; saif Moel yr Ogof rhwng Moel Hebog i'r de a Moel Lefn i'r gogledd.
Saif Cwm Pennant i'r gorllewin o'r copa, a Choedwig Beddgelert i'r dwyrain. I'r de, mae Cwm Llefrith yn ei eahanu oddi wrth Moel Hebog.
Ceir ogof fechan ar lechweddau dwyreiniol y mynydd, ac mae traddodiad i Owain Glyndŵr lochesu yno am gyfnod.
