Minnie Fisher Cunningham

Oddi ar Wicipedia
Minnie Fisher Cunningham
Ganwyd19 Mawrth 1882 Edit this on Wikidata
New Waverly, Texas Edit this on Wikidata
Bu farw9 Rhagfyr 1964 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethgwleidydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Minnie Fisher Cunningham (19 Mawrth 1882 - 9 Rhagfyr 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Fe'i ganed yn New Waverly, Texas. Minnie Cunningham oedd y myfyriwr benywaidd cyntaf i gael ei derbyn i Gangen Feddygol Prifysgol Texas yn Galveston, lle enillodd radd mewn Fferyllaeth.

Minnie Fisher Cunningham (19 Mawrth 1882 - 9 Rhagfyr 1964) oedd ysgrifennydd gweithredol cyntaf Cynghrair y Pleidleiswyr Benywaidd, a gwleidydd dros etholfraint a weithiodd i basio Diwygiad y 19g i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau pan welwyd menywod yn cael yr hawl i bleidleisio. Yn weithiwr gwleidyddol gyda barn ryddfrydol, daeth yn un o'r aelodau a sefydlodd Glwb Democrataidd Cenedlaethol y Merched. Yn ei swydd yn goruchwylio cyllid y clwb, cynorthwyodd y sefydliad i brynu ei bencadlys yn Washington, D.C., adeilad sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw (2019).[1][2]

Roedd rhai o deulu Cunningham yn berchnogion caethweision planhigfeydd, cyfoethog a oedd wedi symud i Texas o Alabama. Erbyn iddi gael ei geni ym 1882, roedd y Rhyfel Cartref (1861–1865) wedi godro arian y teulu, gan orfodi ei mam i werthu llysiau mewn marchnad i gael dau ben llinyn ynghyd.[3][4][5]


Hawliau menywod[golygu | golygu cod]

Cunningham tra'n canfasio am sedd ar Senedd UDA

Fel aelod o Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint Menywod America, helpodd Cunningham ddarbwyllo'r Seneddwr Andrieus Aristieus Jones o Fecsico Newydd, cadeirydd Pwyllgor Etholfraint Menywod y Senedd, i gyflwyno gwelliant a fyddai'n caniatau rhoi'r bleidlais i ferched. Roedd Cunningham, hefyd, yn rhan o dîm a gyfarfu â'r Arlywydd Woodrow Wilson yn y Swyddfa Oval, gan lwyddo i ddarbwyllo'r Arlywydd i ryddhau datganiad yn mynegi gogwydd tuag at rhoi'r bleidlais i fenywod.[6]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.

Bu'n weithgar am ddegawdau mewn gwleidyddiaeth talaith Texas, ac yn genedlaethol. Yn 1928, Cunningham oedd y fenyw gyntaf o Texas i fod yn ymgeisydd ar gyfer Senedd yr Unol Daleithiau. Cefnogodd bolisïau a rhaglenni'r "Fargen Newydd" Franklin D. Roosevelt, a cheisiodd godi statws y difreintiedig yn y wlad.[6] Gwelodd Cunningham y cysylltiad rhwng tlodi a diffyg maeth, a gweithiodd dros ddeddfwriaeth y llywodraeth a fynnai bod blawd a bara'n cael eu cyfoethogi gan faetholion.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Urdd Merched y Bleidlais am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiad geni: "Minnie Fisher Cunningham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Minnie Fisher Cunningham". ffeil awdurdod y BnF.
  2. Dyddiad marw: "Minnie Fisher Cunningham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Minnie Fisher Cunningham". ffeil awdurdod y BnF.
  3. McArthur, Smith (2005) tt.8,9
  4. Holder, Gerald L. "Waverly, Texas". Handbook of Texas Online. Texas State Historical Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 30 Mawrth 2012. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  5. McArthur, Smith (2005) pp.10,11,12
  6. 6.0 6.1 McArthur, Smith (2005) pp.71,72