Mikhail Gorbachev

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Michail Sergejewitsch Gorbatschow)
Jump to navigation Jump to search
Михаил Сергеевич Горбачёв
Mikhail Sergeyevich Gorbachev
Mikhail Gorbachev


Arlywydd yr Undeb Sofietaidd
Cyfnod yn y swydd
15 Mawrth 1990 – 25 Rhagfyr 1991
Is-Arlywydd(ion)   Gennady Yanayev
Olynydd Boris Yeltsin (Arlywydd Rwsia)

Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd
Cyfnod yn y swydd
11 Mawrth 1985 – 24 Awst 1991
Rhagflaenydd Konstantin Chernenko
Olynydd Vladimir Ivashko

Geni 2 Mawrth 1931
Stavropol, SFSR Rwsia
Plaid wleidyddol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1950-1991)
Priod Raisa Gorbachyova
Llofnod Mikhail Gorbachev Signature.svg

Mae Mikhail Sergeyevich Gorbachev (Rwsieg: Михаи́л Серге́евич Горбачёв) (ganed 2 Mawrth 1931) yn wleidydd Rwsiaidd a fu am gynfnod yn arlywydd yr Undeb Sofietaidd. Ef oedd yr wythfed Arlywydd, a'r olaf. Roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1985 - 1991) ac arlywydd olaf yr Undeb Sofietaidd, yn dal y swydd honno o 1985 hyd ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd ei ymgeisiau i adnewyddu'r wladwriaeth, sef perestroika ("ailstrwythuro") a glasnost ("bod yn agored"), yn elfenau amlwg yn y broses o ddod a'r Rhyfel Oer i ben ac i ail-greu'r Undeb Sofietaidd, gan ei throi o fod yn wlad Gomiwnyddol ac at Gyfalafiaeth. Fe dderbyniodd Fedal Heddwch Otto Hahn yn 1989, Wobr Heddwch Nobel yn 1990 a Gwobr Harvey yn 1992.

Drwy ailstrwythuro'r Undeb Sofietaidd, diddymwyd grym y Blaid Gomiwnyddol o fewn cyfansoddiad y wlad; drwy gynlluniau Gorbachev newidiwyd ei rôl o fod yn un a oedd yn trarglwyddiaethu ac yn rheoli'r wladwriaeth gydag awennau tynn i greisis ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, ymchwydd gref o wrth-Gomiwnyddiaeth ac yna, fel penllawn i'r cyfan: diddymiad yr Undeb Sofietaidd. Mynegodd siom iddo fethu a gwneud hyn ond cadw'r hen CCCP (neu'r 'USSR') a dywedodd mai gwelliannau a diwygiadau oedd ei bolisiau a lwyddodd yn y diwedd er i rai geisio eu tanseilio a chymryd y clod oddi wrtho.

Y blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Stavropol Krai i deulu gwerinol, cyffredin o Wcrain-Rwsiaidd; Yn hogyn ifanc arferai yrru peiriant cynaeafu gwair ar ffermydd cyfagos. Graddiodd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Mosgow yn 1955, lle ymunodd gyda'r Blaid Gomiwnyddol. Cafoff ei ethol yn swyddog o Gymdeithas Talaith Stavropol yn 1970, ac yn Ysgrifennydd Cyntaf y mudiad cenedlaethol yn 1974 a'r Politburo erbyn 1979. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Politburo yn 1985, dair blynedd wedi marwolaeth Leonid Brezhnev.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.