Michael Mosley
Michael Mosley | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mawrth 1957 Kolkata |
Bu farw | 5 Mehefin 2024 Symi |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, meddyg, cynhyrchydd teledu, llenor |
Priod | Clare Bailey |
Gwefan | https://michaelmosley.co.uk/ |
Newyddiadurwr teledu, cynhyrchydd, cyflwynydd ac awdur o dras Brydeinig oedd Michael Hugh Mosley[1] (22 Mawrth 1957 - 5 Mehefin 2024)[2], a fu’n gweithio i’r BBC o 1985 hyd ei farwolaeth. Roedd e'n gyflwynydd rhaglenni teledu ar fioleg a meddygaeth ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar The One Show. Roedd Mosley yn eiriolwr dros ymprydio ysbeidiol a diet carbohydrad isel, ac ysgrifennodd lyfrau sy'n hyrwyddo'r diet cetogenig. Aeth Mosley ar goll ar ynys Symi yn Ngwlad Groeg ar 5 Mehefin 2024. Ar 9 Mehefin 2024 daethpwyd o hyd i gorff wrth chwilio am Mosley, gyda'r cyfryngau lleol yn adrodd mai ei gorff ef oedd.
Cafodd Mosley ei eni yn India, yn fab i banciwr.[3] Cafodd ei addysg yn Lloegr.[4] Astudiodd yng Ngholeg Newydd, Rhydychen. Yn ddiweddarach penderfynodd ddod yn seiciatrydd. Ar ôl graddio mewn meddygaeth, dewisodd Mosley beidio â dechrau gweithio fel meddyg mewn ysbyty. Yn lle hynny, ymunodd â chynllun cynhyrchydd cynorthwyol dan hyfforddiant yn y BBC.[5]
Roedd Dr Mosley ar wyliau gyda'i wraig yng Ngwlad Groeg pan ddiflannodd ar ôl mynd am dro ar ddiwrnod poeth iawn. Er i bobl chwilio amdano am sawl diwrnod, ni ddaethpwyd o hyd i'w gorff tan 9 Mehefin. Awgrymodd post-mortem ei fod wedi marw ar yr un diwrnod ag yr aeth ar goll. Efallai ei fod wedi marw o drawiad gwres a blinder.[6]
Teledu
[golygu | golygu cod]Year | Teitl | Sianel | Nodyn |
---|---|---|---|
2007 | Medical Mavericks | BBC Four | |
2008 | Blood and Guts | BBC Two | |
2009 | Make Me | BBC One | |
2010 | The Brain – A Secret History | BBC Four | |
The Story of Science: Power, Proof and Passion | BBC Two | 6 pennod | |
Pleasure and Pain | BBC One | ||
The Young Ones | BBC One | ||
2011 | Frontline Medicine | BBC Two | [7][8][9][10][11] |
Ten Things about Weight Loss | BBC One | ||
Inside the Human Body | BBC One | 4/5 pennod | |
2012 | Guts: The Strange and Mysterious World of the Human Stomach | BBC Four | Neu Inside Michael Mosley |
Eat, Fast and Live longer | BBC Two | ||
Truth about Exercise | BBC Two | ||
2013 | One Show | BBC One | Cyflwynydd gwyddoniaeth |
Horizon Specials | BBC Two | ||
The Truth About... | BBC Two | ||
Pain, Pus and Poison: The Search for Modern Medicines | BBC Four | 3 pennod | |
Winter Viruses and How to Beat Them | BBC Two | gyda Alice Roberts. | |
The Genius of Invention | BBC Two | gyda Mark Miodownik a Cassie Newland. | |
The Truth About Personality | BBC Two | Horizon | |
2014 | Trust Me, I'm a Doctor | BBC Two | |
Infested! Living with Parasites | BBC Four | ||
Should I Eat Meat? | BBC Two | 2 pennod Horizon | |
2015 | Is your Brain Male or Female | BBC Two | Horizon |
Countdown to Life: the Extraordinary Making of You | BBC Two | 3 pennod | |
Are Health Tests Really a Good Idea? | BBC Two | ||
2016 | E-Cigarettes: Miracle or Menace? | BBC Two | |
Inside Porton Down: Britain's Secret Weapons Research Facility | BBC Four | ||
2017 | Meet the Humans | BBC Earth | 5 pennod[12][13] |
2021 | 21 Day Body Turnaround with Michael Mosley | Channel 4 | 3 pennod[14][15] |
Lose a Stone in 21 Days with Michael Mosley | Channel 4 | 3 pennod | |
Australia's Health Revolution | SBS | 3 pennod[16] | |
2022 | Michael Mosley: Who Made Britain Fat? | Sianel 4 | 2 pennod[17] |
Horizon: How To Sleep Well | BBC Two | [18] | |
2024 | Michael Mosley: Secrets Of Your Big Shop | Sianel 4 | 4 pennod[19] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Honorary graduates 2016/17". Prifysgol Caeredin (yn Saesneg). 13 Mai 2019. Cyrchwyd 8 Mehefin 2024.
- ↑ Alicia Adejobi (6 Mehefin 2024). "Inside the family life and career of This Morning's Dr Michael Mosley". Metro (yn Saesneg).
- ↑ Mosley, Michael (25 Ionawr 2013). "The flu virus that nearly killed me". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 12 Chwefror 2020.
- ↑ Rocca, Jane (17 Mawrth 2019). "Dr Michael Mosley: What I know about women". Sydney Morning Herald (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mai 2021. Cyrchwyd 1 May 2021.
- ↑ Chapman, Beth (27 Mawrth 2004). "From finance to medicine to the media" (yn en). BMJ Careers (BMJ Group) 328 (7442): s129. doi:10.1136/bmj.328.7442.s129. https://www.bmj.com/content/328/7442/s129. Adalwyd 23 Tachwedd 2018.
- ↑ Lucy Holden; Holly Evans; Alisha Rahaman Sarkar (11 Mehefin 2024). "Michael Mosley – latest: Major update as initial post mortem reveals TV doctor's time and cause of death". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
- ↑ "Frontline Medicine". BBC Two (yn Saesneg). BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2022. Cyrchwyd 9 Ionawr 2022.
- ↑ Mosley, Michael (28 Mehefin 2018). "Being back in the NHS 'reminded me of Afghanistan'". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2022. Cyrchwyd 9 Ionawr 2022.
- ↑ Ministry of Defence (Deyrnas Unedig) (18 November 2011). "TV programme showcases military medics' work in Helmand". GOV.UK (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2022. Cyrchwyd 9 Ionawr 2022.
- ↑ "Frontline Medicine (TV Series 2011)". IMDb. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2022. Cyrchwyd 9 January 2022.
- ↑ "Michael Mosley: Frontline Medicine, Ep.1 Survival". Media Centre (yn Saesneg). Special Broadcasting Service. 14 April 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2022. Cyrchwyd 9 Ionawr 2022.
- ↑ "Big Brother meets lab rats". New Straits Times. 19 Mehefin 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Medi 2017. Cyrchwyd 7 Medi 2017.
- ↑ "BBC Earth partners with humanoid robot 'Sophia' to explain what it means to be human". BBC Media Centre. 24 Mai 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2018. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2019.
- ↑ "21 Day Body Turnaround with Michael Mosley". Channel 4. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 May 2021. Cyrchwyd 25 May 2021.
- ↑ Mosley, Michael (27 May 2021). "21 Day Body Turnaround with Michael Mosley". The Fast 800. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2022. Cyrchwyd 9 Ionawr 2022.
Dr Michael Mosley's new, three part show, 21 Day Body Turnaround with Michael Mosley, starts on Thursday 27th May on Channel 4.
- ↑ "Australia's Health Revolution with Dr Michael Mosley". www.sbs.com.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 October 2021. Cyrchwyd 12 October 2021.
- ↑ "Channel 4 investigates why Britain is losing the battle with obesity". channel4.com/press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Chwefror 2022. Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
- ↑ "The UK Sleep Census". bbc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mawrth 2021. Cyrchwyd 1 Ebrill 2021.
- ↑ "Michael Mosley: Secrets Of Your Big Shop". channel4.com/4viewers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2024. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.