Gwenynysorion
Gwenynysorion | |
---|---|
Gwybedog gwenyn, (Merops apiaster) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Coraciiformes |
Teulu: | Meropidae Rafinesque, 1815 |
Genera | |
|
Teulu o adar yw'r Gwenynysorion (Lladin: Meropidae). Mae'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau sy'n perthyn i'r teulu hwn yn frodorol o Affrica ac Asia ond ceir llond dwrn yn Ewrop, Awstralia a Gini Newydd. Yr hyn sy'n eu nodweddu yw eu plu amryliw llachar, cyrff main, hir a chynnfonau gydag un bluen ganolog yn hirach na'r gweddill. Mae ganddyn nhw i gyd dro yn eu pigau, a hwnnw'n troi ar i lawr, ac adenydd tebyg i'r wennol. Ceir 26 rhywogaeth gwahanol.
Fel yr awgryma'r enw, gwenyn yw eu prif fwyd, cacwn ac unrhyw fath arall o bryfaid. maent yn eu dal wrth iddynt hedfan, ac mae pryfaid a morgrug yn 20% i 96% o'u diet dyddiol. Cyn llyncu ei ysglyfaeth mae'r Gwenynysydd yn tynnu'r colyn drwy ei daro yn erbyn wyneb caled craig ayb. Drwy wneud hyn mae'n gwaredu'r rhan fwyaf o'r gwenwyn.
Rhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gwenynysor bach | Merops pusillus | |
Gwenynysor bronwinau'r De | Merops oreobates | |
Gwenynysor cynffonlas | Merops philippinus | |
Gwenynysor du | Merops gularis | |
Gwenynysor fforchog | Merops hirundineus | |
Gwenynysor gwyrdd | Merops orientalis | |
Gwenynysor gyddfgoch | Merops bulocki | |
Gwenynysor mygydog | Merops bullockoides | |
Gwenynysor penwinau | Merops leschenaulti | |
Gwybedog gwenyn | Merops apiaster |