Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Oddi ar Wicipedia
Logo Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Sefydlwyd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn 2002 yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae swyddfa'r Fenter ym Mhontardawe.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Pwrpas y Fenter yw i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot ac o fewn ardal Aman Tawe. Mae'n gwmni cyfyngedig nid ar gyfer elw gyda Bwrdd Rheoli, Prif Swyddog a nifer o staff sydd yn gweithreu yn lleol. Mae'r Fenter yn darparu ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn rhoi’r cyfle i bobl defnyddio’r iaith, ond hefyd yn annog ac yn darparu gwybodaeth i bobl di-gymraeg am y manteision a chyfleoedd sydd i ddysgu.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y fenter yn Ebrill 2002 ar ôl i Fenter Aman Tawe gael ei rhannu’n ddwy. Datblygodd un hanner i fod yn Fenter Dyffryn Aman fel rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Myrddin yn Sir Gâr a ffurfiwyd Menter Iaith newydd sbon gyda’r hanner arall i wasanaethu Sir Castell-nedd Port Talbot.

Yn ystod cyfnod Menter Aman Tawe, a sefydlwyd yn 1994, yr ardaloedd a oedd yn cael eu gwasanaethu oedd Cwmtawe, Dyffryn Aman a rhannau o dde Powys ac Abertawe, ond yn dilyn grant ychwanegol gan Fwrdd yr Iaith yn 2002 llwyddwyd i ymestyn y gwaith ar draws Nedd Port Talbot gyfan ac agorwyd swyddfa ym Mhontardawe i gydlynu’r ymdrechion. Ysgogwyd y newidiadau hyn i raddau yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 a greodd Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Ers ei sefydlu mae’r Fenter wedi datblygu nifer o flaengareddau a phrosiectau yn ystod y cyfnod hwn i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir.

Castell-nedd Port Talbot[golygu | golygu cod]

Mae’r Fwrdeistref yn amrywiol iawn ei natur. Mae gan yr ardal boblogaeth o ryw 135,281. Mae diweithdra yn 8.7%, sydd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 5.3%. Mae diweithdra ymhlith pobl ifainc dan 25 yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae tua 73% o’r cymunedau mwyaf dirwasgiedig yn y Fwrdeistref ymhlith y 50% o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 10 cymuned wedi eu cynnwys yn rhaglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’ Llywodraeth y Cynulliad.

Mae proffil economaidd yr ardal wedi newid dipyn dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wrth i’r ardal ddibynnu llai ar lo, olew, petrocemegau a metel a mwy ar y sectorau gwasanaethu a thwristiaeth. Serch hynny, mae gwaithgynhyrchu’n rhan bwysig iawn o economi’r ardal gyda 29% o swyddi yn ddibynnol arno gyda chwmni dur Corus yn para i fod yn brif gyflogwr.

Cefndir Ieithyddol[golygu | golygu cod]

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae tua 15.3% o boblogaeth y sir yn gallu siarad Cymraeg, sydd yn cyfateb i 20,698 o bobl. Mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn byw ym mhen uchaf Cwmtawe a Dyffryn Aman gyda rhai cymunedau megis Gwaun Cae Gurwen, Cwmllynfell a Brynaman Isaf ymhlith yr ardaloedd Cymreiciaf yng Nghymru gyfan. Fodd bynnag, dyma’r ardaloedd a welodd y dirywiad mwyaf o safbwynt canran a niferoedd siaradwyr Cymraeg rhwng 2001-2011. Fel y nodir yn y tablau isod, mae rhai cymunedau megis Godre’r Graig ac Ystalyfera wedi gweld dirywiad o dros 10% o fewn degawd. Gellid dadlau mai’r ardal sydd yn ymestyn o Drebanos i Gwmllynfell a Rhos i Waun Cae Gurwen yw’r un bwysicaf yn y sir o safbwynt ei harwyddocâd ieithyddol gan mai yno y ceir y niferoedd a’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. Yr ardal hon yw echel ieithyddol y sir a bydd Cynllun Strategol y Fenter yn rhoi sylw arbennig i gynlluniau sydd yn ceisio atgyfnerthu’r Gymraeg yn y cymunedau allweddol hyn dros y blynyddoedd nesaf. Byddai colli’r waddol hon o Gymreictod naturiol yn sicr o gael effaith seicolegol ddirfawr ar weddill y sir ac ar y twf sylweddol o blant sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg y cylch a’r oedolion hynny sydd yn dysgu’r iaith o’u gwirfodd. Dyma un o’r rhesymau pam y penderfynnodd Bwrdd yr Iaith sefydlu PartnerIAITH yn 2011 ar gyfer ardal Aman Tawe a phenodi swyddogion llawn amser i hybu’r Gymraeg yn y pentrefi nodedig hyn.

Canrannau Siaradwyr Cymraeg Aman Tawe[golygu | golygu cod]

Y mae’r tabl isod yn dangos y newid o ran canran o safbwynt siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau Aman Tawe rhwng 2001 a 2011:-

Cymuned % Siaradwyr Cymraeg (2001) % Siaradwyr Cymraeg (2011) % Newid
Cwmllynfell 68.2 58.8 -9.4
Brynaman Isaf 68.1 60.8 -7.3
Gwaun-Cae-Gurwen 67.9 55.8 -12.1
Ystalyfera 54.6 46.0 -8.6
Trebanos 42.4 33.6 -8.8
Godre’r Graig 41.5 30.1 -11.4
Pontardawe 37.4 31.0 -6.4
Alltwen 35.9 29.5 -6.4
Rhos 28.6 24.7 -3.9

(Ffynhonnell: Cyfrifiad 2001/2011)

Er bod canrannau yn adlewyrchiad da o ddwysedd siaradwyr Cymraeg maent i raddau helaeth yn gallu bod yn gamarweiniol fel mesur o hyfywedd iaith. Mae niferoedd ar y llaw arall yn rhoi darlun manylach o safbwynt newidiadau demograffaidd. Gweler yn y tabl isod fel y mae cwymp sylweddol wedi digwydd yn y niferoedd o siaradwyr yr iaith dros gyfnod o ddegawd mewn cymunedau traddodiadol Gymraeg fel Cwmllynfell, Brynaman Isaf, Gwaun Cae Gurwen ac Ystalyfera. Mae colli cymaint â hyn o siaradwyr mewn cyfnod cymharol fyr yn gwanhau sylfaen ieithyddol yr ardal ac yn arwain at ddirywiad cyflymach wrth i’r shifft iaith danseilio hyder a pharodrwydd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn peuoedd cymdeithasol amrywiol.

Mae nifer o resymau paham y gwelir erydiad ieithyddol yn digwydd mewn ardaloedd sydd â chanrannau a niferoedd cymharol uchel o siaradwyr Cymraeg – nodwedd sydd yn gyffredin i gymunedau cyffelyb sydd yn ymestyn ar draws Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth. Ymhlith y prif ffactorau sydd yn cyfrannu tuag at ddirywiad iaith mae:-

  • Diffyg trosglwyddiad iaith yn y cartref
  • Allfudo/Mewnfudo
  • Canfyddiad negyddol o werth cynhenid yr iaith
  • Diffyg ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd
  • Diffyg hyder Cymry Cymraeg
  • Ymlediad y Saesneg i beuoedd traddodiadol y Gymraeg
  • Priodasau cymysg eu hiaith
  • Grym y dylanwad Eingl-Americanaidd ar ddiddordebau plant a phobl ifainc
  • Mwy o farwolaethau na genedigaethau ymhlith teuluoedd Cymraeg
Niferoedd a Chanrannau Pob Adran Etholiadol[golygu | golygu cod]

Fe welwch o'r tabl isod bod niferoedd a chanrannau o siaradwyr Cymraeg y sir yn amrywio'n fawr iawn. Mae ardaloedd Brynaman Isaf, Cwmllynfell a Gwauncaegurwen gyda dros 50% o siaradwyr Cymraeg, ble mae ardaloedd Aberafan, Baglan, Llansawel a nifer o ardaledd Castell-nedd a llai na 10% o siaradwyr Cymraeg.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]
Adran etholiadol[golygu | golygu cod]
Pob person 3 oed a throsodd Pob person 3 oed a throsodd s’yn siarad Cymraeg Canran  3 oed a throsoddsy’n siarad Cymraeg
Castell Nedd Port Talbot 135,281 20,698 15.3
Aberafan 5,232 411 7.9
Aberdulais 2,305 311 13.5
Alltwen 2,251 664 29.5
Baglan 6,627 557 8.4
Blaengwrach 1,935 287 14.8
Llansawel – Dwyrain 2,827 242 8.6
Llansawel – Gorllewin 2,896 275 9.5
Bryn a Chwmafan 6,330 1,024 16.2
Bryn-coch Gogledd 2,139 297 13.9
Bryn-coch De 5,706 699 12.3
Llangatwg 1,647 211 12.8
Cimla 3,835 350 9.1
Coedffranc Canolog 3,870 425 11.0
Coedffranc Gogledd 2,322 265 11.4
Coedffranc Gorllewin 2,563 316 12.3
Creunant 1,851 465 25.1
Cwmllynfell 1,137 669 58.8
Cymer 2,714 186 6.9
Dyffryn 3,078 350 11.4
Glyncorrwg 1,054 65 6.2
Glyn Nedd 3,320 689 20.8
Godre’r graig 1,571 473 30.1
Gwauncaegurwen 2,823 1,576 55.8
Gwynfi 1,314 92 7.0
Brynaman Isaf 1,277 776 60.8
Margam 2,908 295 10.1
Castell-nedd Dwyrain 6,137 497 8.1
Castell-nedd Gogledd 3,838 379 9.9
Castell-nedd De 4,789 440 9.2
Onllwyn 1,161 222 19.1
Pelennau 1,113 178 16.0
Pontardawe 5,232 1,624 31.0
Port Talbot 5,457 518 9.5
Resolfen 3,044 341 11.2
Rhos 2,382 588 24.7
Sandfields Dwyrain 6,692 504 7.5
Sandfields Gorllewin 6,495 524 8.1
Blaendulais 2,049 469 22.9
Taibach 4,634 354 7.6
Tonna 2,445 292 11.9
Trebannws 1,367 459 33.6
Ystalyfera 2,911 1,339 46.0

(Ffynhonnell: Cyfrifiad 2001/2011)