Menna Medi
Gwedd
Menna Medi | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Awdures nofelau a straeon byrion Cymraeg o Lanuwchllyn, ger y Bala yw Menna Medi.
Hogan Horni a Hogan Horni Eisiau Mwy[1] ydy'r llyfrau mae hi efallai mwyaf adnabyddus amdanynt.
Yn y gorffennol mae hi wedi gweithio i’r BBC, ac fel rheolwr marchnata i gwmni Sain.
Mae’n barddoni ac wedi ennill nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol. Bu hi'n cynllunio a dosbarthu cardiau cyfarch doniol, ‘Cyfres Wahanol’.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Hogan Horni yn ystod haf 2007. Enillodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol 2001.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "www.gwales.com". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.