Mel Giedroyc

Oddi ar Wicipedia
Mel Giedroyc
Ganwyd5 Mehefin 1968 Edit this on Wikidata
Epsom Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, dyddiadurwr, cyflwynydd teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata
TadMichal Giedroyc Edit this on Wikidata
MamRosemary Virginia Anna Cumpston Edit this on Wikidata
PerthnasauPhilip Parham Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Giedroyć Edit this on Wikidata

Digrifwr, actores, a chyflwynydd Seisnig yw Melanie Clare Sophie "Mel" Giedroyc (/ˈɡɛdrɔɪ/; ganwyd 5 Mehefin 1968), sy'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith comedi gyda Sue Perkins, cyd-gyflwyno cyfresi fel Light Lunch ar gyfer Channel 4, The Great British Bake Off ar gyfer y BBC a sioe sgwrsio Mel and Sue ar ITV.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Giedroyc yn Epsom, Surrey a'i magwyd yn Leatherhead. Roedd ei thad yn hanesydd o dras Pwylaidd-Lithwaniad o deulu tywysogaidd Giedroyć, a ddaeth i Loegr yn 1947. Mynychodd yr ysgol annibynnol Oxford High School, Rhydychen ac aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, gan ennill gradd 2:2 mewn Iaith a Llenyddiaeth Eidaleg.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Giedroyc mewn un bennod o Gimme Gimme Gimme, yn chwarae derbynyddes mewn gwesty. Roedd hefyd yn gyflwynydd ar RI:SE ar Channel 4. Fe drosleisiodd y rhaglen Celebrity Driving School yn 2003. Roedd yn gystadleuydd ar gyfres 2005 o The Games, cyd-serennodd yng nghomedi sefyllfa Blessed ar BBC One a chyd-gyflwynodd Richard Hammond's 5 O'Clock Show ar ITV. Roedd Giedroyc mewn un bennod o The Vicar of Dibley.

Mae Giedroyc yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno eitemau comedi gyda Sue Perkins. Cyfarfu'r ddau tra'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt ac roedd y ddau yn aelod o glwb comedi Footlights. Fe roedd y ddeuawd Mel and Sue ar y rhestr fer i wobr Newydd-ddyfodiaid Gorau y Daily Express yng Ngŵyl Caeredin yn 1993. Daeth eu swyddi cyflwyno gyntaf gyda sioe amser cinio o'r enw Light Lunch ar Channel 4 (a fersiwn yn y prynhawn, Late Lunch).

Giedroyc oedd y chweched myfyriwr i gael ei phleidleisio allan o gyfres Comic Relief Does Fame Academy ac roedd yn feirniad gwadd ar Making Your Mind Up ynghyd â John Barrowman. Serennodd yn y sioe Eurobeat: Almost Eurovision! yng Ngŵyl Caeredin ac yn dilyn hynny yn Theatr y Novello yn West End Llundain. Chwaraeodd Giedroyc gymeriad 'Fairy Liquid' mewn cynhyrchiad o Jack and the Beanstalk yn theatr y Barbican, Llundain yn Rhagfyr 2007. Fe berfformiodd mewn sioe sgets i blant ar y BBC, Sorry I've Got No Head. Yn 2010, roedd Giedroyc yn gapten tîm o enwogion gwadd ar What Do Kids Know? gyda Rufus Hound, Joe Swash a Sara Cox ar Watch ac fe ymddangosodd ym mhennod cyntaf ail gyfres comedi sefyllfa Miranda fel hyfforddwr bywyd.

Roedd Giedroyc yn banelydd ar raglen Channel 5, The Wright Stuff yn 2007, 2008 a Chwefror 2010. Mae'n chwarae Mrs V, perchennog caffi Y, yn y rhaglen blant Sadie J ar CBBC a hi yw llais Mist yn Mist: Sheepdog Tales,[2] a ddangosir ar sioe fore Channel 5 Milkshake!.

Fe ailymunodd Giedroyc a Sue Perkins yn 2010 i gyflwyno'r sioe goginio The Great British Bake Off, ar BBC Two o 16 Awst 2010. Yn ddiweddarach mewn cyfweliad papur newydd fe gyfaddefodd Giedroyc ei fod wedi gwneud y sioe am yr arian, gan esbonio sut roedd ar fin mynd yn fethdalwr.[3] Symudodd y sioe i BBC One am ei bumed gyfres ac mae wedi ennill nifer o wobrwyon.[4] Yn 2012 a 2013, cyflwynodd dwy raglen elusennol arbennig ar gyfer Sport Relief a Comic Relief. Yn 2014, roedd yn gyflwynydd gwadd ar gyfer The Great Sport Relief Bake Off ac yn 2015, cyflwynodd un bennod o The Great Comic Relief Bake Off.

Yn Mawrth 2014, cyflwynodd Giedroyc Collectaholics, cyfres ffeithiol fer ar BBC Two. O Mai 2014, cyflwynodd Giedroyc un gyfres o raglen Channel 4, Draw It!, oedd wedi ei seilio ar yr app symudol Draw Something.[5] Yn Mai 2014, cyflwynodd Giedroyc, gyda'r seicolegydd clinigol Dr Jennifer Wild, raglen ar BBC One o'r enw Vertigo Road Trip am bobl oedd yn ofn uchder. [6] Ar 12 Tachwedd 2014, roedd  Giedroyc yn gyflwynydd gwadd ar The One Show gyda Alex Jones.[7]

Yn 2015, trosleisiodd Giedroyc gyfres wyth rhan ar BBC One, Now You See It. Cyhoeddwyd byddai ail gyfres yn ddiweddarach a ddarlledir yn 2016.[8] Yn Ionawr 2015, cafodd Giedroyc a Perkins ei sioe sgwrsio yn ystod y dydd ar ITV. Fe redodd sioe Mel and Sue am 30 pennod, bob prynhawn yn yr wythnos am 4pm.[9][10] Cyhoeddwyd yn Awst 2015 fod y sioe wedi ei chanslo.[11]

Yn Chwefror 2015, cyd-gyflwynodd Giedroyc a Matt Baker y gyfres pedwar rhan The Gift ar BBC One. Mi fydd yn dychwelyd am ail gyfres yn 2017.[12] Cyflwynodd Geidroyc y sioe gemau amser brig Relatively Clever ar Sky1, a ddechreuodd ar 3 Ebrill 2015.[13] Yn Mai 2015 ymunodd Giedroyc a Scott Mills yn sylwebu ar rownd gynderfynol Cystadleuaeth Cân Eurovision 2015 ar gyfer y Deyrnas Unedig, a ddarlledwyd ar BBC Three.[14]. Yn Chwefror 2016 fe fydd yn cyflwyno Eurovision: You Decide ar BBC Four, rhaglen fydd yn dewis pa gân fydd y Deyrnas Unedig yn ei ddanfon i Gystadleuaeth Cân Eurovision 2016.[15]

Radio[golygu | golygu cod]

Yn Awst 2010, ymddangosodd Giedroyc fel cyd-gyflwynydd ar sioe Dave Gorman ar Absolute Radio, yn sefyll fewn dros Danielle Ward ac mae wedi ymddangos ar gyfresi 4 i 7 o Count Arthur Strong's Radio Show! ar BBC Radio 4.[16] O 2 Ebrill 2011, gydag ail-frandio Radio 7 fel Radio 4 extra, mae Giedroyc wedi cyflwyno The 4 O'Clock Show, sioe sgwrsio sy'n cynnwys eitemau perthnasol i adloniant plant.

Ar 6 Medi 2014, cyd-gyflwynodd Giedroyc gyda Lee Mack ar ei sioe fore Sadwrn ar BBC Radio 2.[17]

Gwaith arall[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2014 roedd Giedroyc yn rhan o fenter Gareth Malone, All Star Choir,[18] yn canu'r unawd agoriadol yn ei fersiwn nhw o "Wake Me Up" i godi arian at Plant Mewn Angen.[19] Ar 3 a 10 Tachwedd 2014, darlledwyd rhaglen ddogfen dwy ran am y côr ar BBC One. Ar 16 Tachwedd, aeth y sengl i rif un yn siart senglau'r DU.

Fe fydd Giedroyc yn cyflwyno'r daith Strictly Come Dancing Live Tour rhwng 22 Ionawr a 14 Chwefror 2016.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Giedroyc yw'r ieuengaf o bedwar plentyn. Mae'r ifancaf o'r chwiorydd, Coky Giedroyc, yn gyfarwyddwraig; a'r chwaer hyn, Kasia, yn wraig i Philip Parham, diplomat Prydeinig.

Mae Giedroyc yn briod a Ben Morris, cyfarwyddwr teledu ac athro yn LAMDA.[20] Maent yn byw yn Llundain ac mae ganddynt dau blentyn: Florence, ganwyd Mai 2002 a Vita, ganwyd Chwefror 2004.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Sianel Nodiadau
1997–98 Light Lunch Cyd-gyflwynydd Channel 4 Gyda Sue Perkins
1998 Late Lunch Cyd-gyflwynydd Gyda Sue Perkins
2006 Mist: The Tale of a Sheepdog Puppy Llais Mist Channel 5 Ffilm deledu unigol
Richard Hammond's 5 O'Clock Show Cyd-gyflwynydd ITV Gyda Richard Hammond
2008–2011 Sorry, I've Got No Head Amryw gymeriadau
CBBC
2010— The Great British Bake Off Cyd-gyflwynydd BBC Two (2010–13)

BBC One (2014—)

Gyda Sue Perkins
2011–2014 Sadie J Ms. V CBBC
2014 Draw It! Cyflwynydd Channel 4
Collectaholics Cyflwynydd BBC Two
Vertigo Road Trip Cyflwynydd BBC One Sioe unigol
2015— Now You See It Adroddwr BBC One
The Gift Cyd-gyflwynydd BBC One Gyda Matt Baker
2015 Mel and Sue Cyd-gyflwynydd ITV GydaSue Perkins
Relatively Clever Cyflwynydd Sky1
Eurovision Song Contest 2015 Cyd-sylwebydd[21] BBC Three Gyda Scott Mills
The Sound of Music Live! Frau Schmidt ITV Fersiwn y DU o The Sound of Music Live!, darlledwyd 20 Rhagfyr 2015
2016 Eurovision: You Decide Cyflwynydd BBC Four
Ymddangosiadau gwadd
  • The Wright Stuff (2007, 2008, 2010) – Panelydd
  • 8 Out of 10 Cats (2005, 2012, 2013, 2014) – Panelydd
  • The Magicians (21 Ionawr 2012) – Cynorthwydd Consuriwr[22]
  • Let's Dance for Comic Relief (16 Chwefror 2013) – Beirniad gwadd
  • That Puppet Game Show (7 Medi 2013) – Cystadleuydd
  • Catchphrase: Celebrity Special (22 Mehefin 2014) – Cystadleuydd[23]
  • The One Show (12 Tachwedd 2014) – Cyflwynydd gwadd
  • The Jonathan Ross Show (31 Ionawr 2015) – Gwestai[24]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • 2005, From Here to Maternity: One Mother of a Journey, Ebury Press, ISBN 978-0091897505 – dyddiadur wedi seilio ar ei beichiogrwydd cyntaf
  • 2007, Going Ga-Ga: Is there life after birth?, Ebury Press, ISBN 978-0-09-190592-7 – thema tebyg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Passed/Failed: An education in the life of comedian Mel Giedroyc". The Independent. London. 8 Rhagfyr 2009.
  2. (Saesneg) Mist: Sheepdog Tales ar wefan Internet Movie Database
  3. Rick Fulton (7 Chwefror 2015). "Mel Giedroyc reveals how she went from near bankruptcy to Bake Off stardom". dailyrecord.
  4. "Mel and Sue to reunite for The Great British Bake-Off". The Daily Mirror. Cyrchwyd 9 Awst 2010.
  5. Mel Giedroyc to host Channel 4's new 'Draw Something' game show Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback. Digital Spy, 25 April 2013
  6. P. Cox, "The dizzy heights of psychology in the media", The Psychologist27:6 (Mehefin 2014), t.462
  7. "BBC One – The One Show, 12/11/2014". BBC. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  8. "Now You See It". digiguide.tv.[dolen marw]
  9. "Great British Bake Off stars clinch ITV chat show". the Guardian. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  10. [1] Archived 4 December 2014 at the Wayback Machine
  11. "Mel & Sue's daytime chatshow has been dropped by ITV". Digital Spy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-26. Cyrchwyd 2016-01-19.
  12. "BBC – The Gift – Media Centre". bbc.co.uk.
  13. [2][dolen marw] l
  14. "Eurovision 2015: 'Great British Bake Off' Presenter Mel Giedroyc To Join Scott Mills For Semi-Finals Coverage, 27/04/2015". Huffington Post UK. Cyrchwyd 13 Mehefin 2015.
  15. "BBC Four to host UK Eurovision public vote show". bbc.co.uk. 18 Ionawr 2016. Cyrchwyd 19 Ionawr 2016.
  16. "Dave Gorman – Show Blog". Absolute Radio. Cyrchwyd 25 Hydref 2013.
  17. "BBC Radio 2 – Lee Mack, Michael Palin and Sofia Helin". BBC. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  18. "BBC – BBC Children in Need – Gareth Malone forms an all-star choir for the Official BBC Children in Need single". BBC. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  19. "BBC – Gareth Malone to form All-Star Choir for official BBC Children in Need single 2014 – Media centre". Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  20. Hardy, Rebecca. ".....TV comedienne Mel Giedroyc was forced to sell her family home when the work suddenly dried up. But then Mary Berry rode to the rescue". The Daily Mail. Cyrchwyd 24 Mai 2014.
  21. BBC Three Entertainment (27 April 2015). "Mel Giedroyc to join Scott Mills as co-host of BBC Three's Eurovision Song Contest Semi Finals coverage". bbc.co.uk. BBC Media Centre. Cyrchwyd 27 April 2015.
  22. "The Magicians". bbc.co.uk. Cyrchwyd 12 December 2015.
  23. "Catchphrase". RadioTimes. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  24. "The Jonathan Ross Show". "ITV Press Centre". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-08. Cyrchwyd 2016-01-19.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]