Megalodon
![Sculpture of a giant shark mounted on display in a museum next to a mounted shark jawbone](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0f/2016_megalodon.jpg/220px-2016_megalodon.jpg)
Rhywogaeth ddiflanedig o forgi yw'r Megalodon (Carcharocles megalodon). Ystyr Megalodon yw "dant mawr", ac roedd yn byw 23 i 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y Cyfnod Mïosen Cynnar a diwedd y Plïosen. Credid ar un adeg ei fod yn perthyn i deulu Lamnidae, gan olygu ei fod yn perthyn yn agos i'r morgi mawr gwyn (Carcharodon carcharias). Erbyn hyn y mae'r farn bron yn unfrydol ei fod yn perthyn i deulu diflanedig yr Otodontidae, a wahanodd oddi wrth linach y morgi mawr gwyn yn ystod y Cyfnod Cretasaidd Cynnar. Mae lleoliad ei genws yn dal i gael ei drafod, gyda gwahanol arbenigwyr yn ei osod naill ai gyda Carcharocles, Megaselachus, Otodus, neu Procarcharodon.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4d/Megalodon_scale.svg/220px-Megalodon_scale.svg.png)
Mae gwyddonwyr yn awgrymu fod megalodon yn edrych fel fersiwn mwy corffol o'r morgi mawr gwyn, er y gallai fod wedi edrych yn debycach i'r heulforgi (Cetorhinus maximus) neu morgi rhesog y tywod (Carcharias taurus).
Uchafswm hyd y megalodon yn ôl amcangyfrifon heddiw yw tua 18 medr, gyda'r maint cyfartalog yn 10.5 medr. Er cymhariaeth, yr uchafswm ar gofnod ar gyfer y morgi mawr gwyn yn 6.1 metre (20 ft) a 12.65 medr ar gyfer y morgi morfilaidd.[1][2][3][4] Mae'n bosib bod gwahanol boblogaethau o'r megalodon yn amrywio yn eu maint ac ymddygiad o ganlyniad i ffactorau ecolegol.[5] Os oedd yn cyrraedd maint o dros 16 medr, byddai hynny'n ei wneud yn y pysgodyn mwyaf sydd wedi byw ar y ddaear hyd y gwyddom, yn fwy na'r pysgodyn Jurasig Leedsichthys.
Cafodd dant y Megalodon ei ddarganfod ar draeth Aberaeron gan fachgen 11 oed (Robert L Gapper) yn 1989 a gwnaed ffilm ohono gan y BBC a gedwir heddiw yn archifdy'r Llyfrgaell Genedlaethol. Mae'n bosibl i'r ffosil hwn o ddant fod wedi'i gario gan donnau'r môr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Great white sharks: 10 myths debunked". The Guardian. Cyrchwyd 3 June 2016.
- ↑ Carpenter, K. "Carcharodon carcharias". FishBase.org. Cyrchwyd 3 June 2016.
- ↑ Viegas, Jennifer. "Largest Great White Shark Don't Outweigh Whales, but They Hold Their Own". Discovery Channel. Cyrchwyd 19 January 2010.
- ↑ Wood, Gerald L. (1976). The Guinness Book of Animal Facts and Feats. Guinness Superlatives. tt. 139–141. ISBN 978-0-900424-60-1.
- ↑ Pimiento, C.; Balk, M. A. (2015). "Body-size trends of the extinct giant shark Carcharocles megalodon: a deep-time perspective on marine apex predators". Paleobiology 41 (3): 479–490. doi:10.1017/pab.2015.16. PMC 4541548. PMID 26321775. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4541548.