Medwsa

Oddi ar Wicipedia
Medwsa
Enghraifft o'r canlynolcymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Rhan oGorgoniaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Medwsa gan Gian Lorenzo Bernini, 1630

Cymeriad ym mytholeg Roeg oedd Medwsa[1] (Hen Roeg: Μέδουσα) sy'n golygu "gwarchodwr".[2] Roedd yn un o'r tair Gorgon, ac yn ferch i Phorkys a Keto.

Ceir sawl fersiwn o'i stori. Yn ôl un fersiwn, roedd yn ferch anarferol o brydferth ond yn byw mewn ardal lle nad oedd yr haul yn tywynnu. Gofynnodd i Athena adael iddi symud i ardal heulog. Pan wrthododd Athena, dywedododd fod hyn oherwydd na fyddai neb yn sylwi ar Athena oherwydd ei phrydferthwch hi ei hun, gan ddigio'r dduwies. Mewn fersiwn arall, ennynnodd ddicter Athena trwy garu a Poseidon, duw'r môr, yn nheml Athena.

Dialodd Athena arni trwy droi ei gwallt yn nadroedd, a gwyneb fyddai'n troi'r sawl a edrychai arno yn garreg. Yn y diwedd, lladdwyd Medwsa gan Perseus, gyda chymorth Athena. Rhoddodd Athena ddrych i Perseus fel na fyddai edrychiad y gorgon yn ei droi'n garreg. O'i gwaed, fel canlyniad i'w charwriaeth a Poseidon, ganwyd y ceffyl adeiniog Pegasus a'r cawr Chrysaor.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [Medusa].
  2. Yr un gair â medein, "rheoli neu warchod" (American Heritage Dictionary; cymharer gyda: Medon, Medea, Diomedes, ayb.). Os nad o'r tarddiad hwn yna mae'n sicr o'r un gwraidd. OED argraffiad 2001, s.v.; medein yn LSJ.