Medi Harris

Oddi ar Wicipedia
Medi Harris
Ganwyd15 Medi 2002 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Nofiwr rhyngwladol Cymreig yw Medi Eira Harris (ganwyd 15 Medi 2002). Ennill medal efydd gan cynrychioli Cymru yng Gemau'r Gymanwlad 2022 Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn y ras 100 metr dull cefn merched. [1] [2]

Cafodd Harris ei geni ym Mhorthmadog. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Abertawe, Enillodd ddwy fedal gan gynnwys y fedal aur yn y digwyddiad 100 metr cefn, ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain 2022 . [3] O ganlyniad, cynrychiolodd Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau Dŵr y Byd 2022 . [4]

Yn 2022 cafodd ei dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham lle bu'n cystadlu mewn dau ras; cefn 50 metr merched a 100 metr cefn.[1]

Ym Mhencampwriaethau Dŵr Ewropeaidd 2022 yn Rhufain, enillodd fedal arian yn rownd derfynol ras gefn 100 metr merched ac un arall fel aelod o dîm Prydain yn ras gyfnewid dull rhydd 4 × 200 metr y Merched.[5] Yn yr un pencampwriaethau, enillodd fedal aur fel aelod o dîm ras gyfnewid dull rhydd 4 × 100 medr Merched Prydain, ac efydd fel aelod o dîm cyfnewid cymysg 4 × 100 metr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Official Commonwealth Games profile". Birmingham Organising Committee Commonwealth Games Ltd. Cyrchwyd 2 August 2022.
  2. "Medi Harris" (yn Saesneg). Eurosport. Cyrchwyd 2 Awst 2022.
  3. "Team Wales profile". Team Wales. Cyrchwyd 2 August 2022.[dolen marw]
  4. "british Swimming profile" (yn Saesneg). British Swimming. Cyrchwyd 2 Awst 2022.
  5. "Great Britain win first gold..." Eurosport (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Awst 2022.