May Gorslin Preston Slosson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
May Gorslin Preston Slosson
May Gorslin Preston Slosson (1858-1943).jpg
Ganwyd May Gorslin Preston Edit this on Wikidata
10 Medi 1858 Edit this on Wikidata
Ilion, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Tachwedd 1943 Edit this on Wikidata (85 oed)
Ann Arbor Edit this on Wikidata
Man preswyl Hillsdale, Ithaca, Hastings, Sabetha (Kansas), Laramie, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaeth addysgwr, pennaeth, ymgyrchydd pleidlais i ferched, swffragét, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Priod Edwin Emery Slosson Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd May Gorslin Preston Slosson (10 Medi 1858 - 26 Tachwedd 1943) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwr, pennaeth ysgol, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gradd doethur mewn athroniaeth yn Unol Daleithiau America.

Fe'i ganed yn Ilion, Efrog Newydd a bu farw yn Ann Arbor, Michigan. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Hillsdale a Phrifysgol Cornell. Bu'n briod i Edwin Emery Slosson. [1]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd May Gorslin Preston yn ferch i'r Parchedig Levi Campbell Preston a Mary Gorslin. Symudodd ei theulu i Kansas o Dalaith Efrog Newydd.[2] Enillodd raddau Baglor mewn gwyddoniaeth (1878) a Meistr mewn gwyddoniaeth (1879) o Goleg Hillsdale ym Michigan.[3] Yn 1880 hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Ph.D. o Brifysgol Cornell, a'r fenyw gyntaf i ennill gradd doethur mewn athroniaeth yn yr Unol Daleithiau. Teitl ei thesis oedd Gwahanol Theorïau am Harddwch.[4][5]

Gwaith ac ymgyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra'n byw yn Wyoming, roedd May Preston Slosson wedi mwynhau hawliau yr oedd taleithiau eraill yn eu gwadu i fenywod, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio.[6] Ar ôl symud i Efrog Newydd, bu ei gŵr a hithau'n weithgar yn y mudiad etholfraint.[3][7]

Ym 1920 cyhoeddodd lyfr o gerddi, From a Quiet Garden, Lyrics in Prose and Verse.[8]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
  2. Slosson, Preston W. (1930). "Edwin E. Slosson, Pioneer, by His Son". A Number of Things. New York: Harcourt, Brace and Company. pp. 3–33.
  3. 3.0 3.1 Bennicoff, Tad (15 Mawrth 2012). "Open Minds Open Doors". Smithsonian Institution Archives. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  4. Rogers, Dorothy (2005). America's first women philosophers: Transplanting Hegel, 1860-1925. London: Continuum. p. 17. ISBN 9781847143006.
  5. "May Gorslin Preston Slosson (1858-1943)". Acc. 90-105 - Science Service, Records, 1920s-1970s, Smithsonian Institution Archives. Smithsonian Institution Archives. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
  6. "WYOMING'S EQUALITY HERITAGE". Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2012.
  7. "Husband talks suffrage for her" (PDF). New York Times. 12 Ionawr 1910. p. 9. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2015.
  8. Slosson, May Preston (1910). From a quiet garden: Lyrics in prose and verse. New York: Brentano's. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.