Mary Oliver Jones
Mary Oliver Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1858 ![]() Lerpwl ![]() |
Bu farw | 1893 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | awdur ![]() |
Awdures Gymreig o Lerpwl[1] a ysgrifennai yn y Gymraeg oedd Mary Oliver Jones (14 Chwefror 1858[2] – 1893).[3]
Bywgraffiad
Fe'i ganwyd yn Lerpwl yn ferch i weinidog Methodistaidd, a bu fyw yno drwy gydol ei bywyd byr lle fu'n chwarae rhan bwysig yng nhgymuned Cymraeg y ddinas.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d3/Y_frythones_%28Welsh_Journal%29.jpg/220px-Y_frythones_%28Welsh_Journal%29.jpg)
Bu'n un o nifer o awduron benywaidd i gael ei sbarduno i ysgrifennu gan Cranogwen ar gyfer ei chylchgrawn hi, Y Frythones. Dywedir mewn dogfen ar womensarchivewales.org, 'Daeth llawer o awduron mwyaf llwyddiannus y cylchgrawn i fri trwy’r cystadlaethau hyn: y nofelydd Mary Oliver Jones, er enghraifft, a enillodd y gystadleuaeth gyntaf am stori gyfres..'[4] Ennillodd ei nofel gyntaf, Claudia, wobr yn y cylchgrawn; dilynnodd nifer o nofelau eraill yn y Frythones a chylgronau eraill.
Nofelau (Detholiad)
- Claudia (1880)
- Y Fun o Eithinfynydd (1891)[5]
- Nest Merfyn (1892-3; ail-gyhoeddwyd 2024)
Cyfeiriadau
- ↑ Aaron, Jane (2010-02-15). Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender, Identity (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 134. ISBN 978-0-7083-2287-1.
- ↑ Thomas Mardy Rees (1908). Notable Welshmen (1700-1900) (yn Saesneg). Herald Office. t. 429.
- ↑ "Mary Oliver Jones, 'Y Gwilyedydd', 23 Awst 1893. t.1".
- ↑ www.womensarchivewales.org; adalwyd 4 Ionawr 2024.
- ↑ y llyfr ar amazon.co.uk.