Martyn Ashton

Oddi ar Wicipedia
Martyn Ashton
Animal Bike Tour, Aberystwyth, Mehefin 2007
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnMartyn Ashton
Dyddiad geni (1974-02-12) 12 Chwefror 1974 (50 oed)
Manylion timau
DisgyblaethBeicio Mynydd
RôlReidiwr
Math seiclwrTreialon
Tîm(au) Proffesiynol
1997
2005
2008–
Volvo - Cannondale
Animal MBUK
Team Ashton Diamondback
Prif gampau
Pencampwr Iau y Byd
Golygwyd ddiwethaf ar
20 Ionawr 2012

Beiciwr mynydd treialon a rheolwr tîm Cymreig ydy Martyn Ashton (ganwyd 2 Rhagfyr 1974).[1] Mae wedi bod yn reidio treialon yn broffesiynol ers 1993[2] a disgrifiwyd e'n aml fel "reidiwr chwedlonol".[3][4] Dywedir mai e'n bennaf sydd wedi troi reidio treialon o ffurf arbenigol o reidio i'r chwaraeon fel yr adnabyddir ef heddiw.[5]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Ashton fel reidiwr treialon beic modur, gan droi at dreialon beicio mynydd yn ddiweddarach.[5] Mae wedi bod yn flaenwr The Bike Tour ers 2002, ac yn bencampwr Treialon Beic Prydain am bedair mlynedd yn olynol, yn ogystal â Phencampwr "Expert" Treialon Beic y Byd. Ashton hefyd yw deiliad Record Naid Uchel y Byd ar feic mynydd. Cafodd hefyd ei ychwanegu at Hall of Fame Mountain Biking UK.[2]

Nid reidio treialon yn unig mae Ashton, mae hefyd wedi cynllunio'r llwyfanau arddangos[6] a bu'n dylunio cynnyrch ar gyfer ei frand ei hun, Ashton Bikes, ers 2002.[3] Mae wedi ymddangos ar sioeau teledu, cloriau cylchgronau a fideos beicio mynydd, ac mae ganddo golofn ei hun, Hop Idol, yn y cylchgrawn MBUK.[3] Mae'n byw ym Mhort Talbot, De Cymru.

Torrodd Ashton ei gefn yn 2003, wedi iddo gywasgu fertebra a'i thorri ar ôl camfarnu glaniad, ond ni fu'n hir cyn dychwelyd at reidio.[7]

Sefydlodd Tim Ashton Diamondback er mwyn darparu cefnogaeth ar gyfer reidwyr ifanc. Er ei bod yn reidwyr o'r safon uchaf ac â'r gallu i ennill canlyniadau rhyngwladol, nid yw Ashton yn credu mai canlyniadau yw popeth, felly mae'r tîm yn canolbwyntio ar dderbyn sylw positif gan y wasg yn ogystal â chystadlu. Datblygwyd ystod o feiciau Team Ashton yn 2008, a rhyddhawyd hwy yn Hydref 2008 fel rhan o'r gyfres Diamondback 2009.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Martyn Ashton. Cycling Website. Adalwyd ar 4 Ionawr 2012.
  2. 2.0 2.1  Martyn Ashton. Ashton Bikes.
  3. 3.0 3.1 3.2 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-12. Cyrchwyd 2012-01-20. Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help)
  4. http://www.adsprojects.com/photo_1083537.html. Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  5. 5.0 5.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-13. Cyrchwyd 2012-01-20. Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help)
  6.  ANIMAL MOUNTAIN BIKE CHAMPIONS, MARTYN ASHTON AND GRANT ‘CHOPPER’ FIELDER, AT THE SPORTSBOAT AND RIB SHOW. Southampton Sports Boat and RIB Show (4 Mai 2005).
  7.  UK Trials ace Ashton recovering from broken back (Chwefror 2003).
  8.  About Team Ashton. Ashton Bikes.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]