Martha Grimes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Martha Grimes
Martha Grimes o Facebook.JPG
Ganwyd 2 Mai 1931 Edit this on Wikidata
Pittsburgh Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Maryland, College Park
  • Prifysgol Iowa Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, nofelydd, academydd, Bardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddull cozy mystery Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Edgar, Gwobr Nero Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.marthagrimes.com/hp/ Edit this on Wikidata

Awdur llyfrau ditectif o Unol Daleithiau America yw Martha Grimes (ganwyd 2 Mai 1931) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel academydd. Ei chymeriad mwyaf poblogaidd yw Richard Jury, arolygydd gyda Scotland Yard. Yn hytrach na disgrifio trais mae ei nofelau'n canolbwyntio ar gymeriadu.[1]

Yn 1983, derbyniodd Grimes Wobr Nero Wolfe am ddirgelwch y flwyddyn The Anodyne Necklace ac yn 2012, fe'i henwyd yn "Grand Master" gan Wobrau Edgar yn y dosbarth Mystery Writers of America.[2]

Erbyn 2019 trigai yn Bethesda, Maryland.

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Pittsburgh, Pennsylvania; ei thad oedd William Dermit Grimes, cyfreithiwr llwyddiannus a'i mham oedd June Dunnington, perchennog gwesty Mountain Lake yn Western Maryland, lle treuliodd Martha a'i brawd llawer o'u plentyndod. [3][4][5]

Wedi gadael yr ysgol enillodd ei B.A. a'i M.A. ym Mhrifysgol Maryland. Mae hi wedi dysgu ym Mhrifysgol Iowa, Prifysgol Taleithiol Frostburg, a Choleg Montgomery. [6][7][8][9]

Yr awdur[golygu | golygu cod y dudalen]

I ddechrau, daeth Grimes yn adnabyddus am ei chyfres o nofelau yn cynnwys Richard Jury, arolygydd yn Scotland Yard, a'i gyfaill Melrose Plant, aristocrat Seisnig sydd wedi rhoi'r gorau i'w deitlau. Mae pob un o'r gyfres wedi'i enwi ar ôl tafarn. Y cyntaf yn y gyfres oedd The Man With a Load of Mischief (Boston: Little, Brown, 1981).

Ceir hefyd cyfres o bedair nofel am y cymeriad Emma Graham, gyda'r cyntaf, Hotel Paradise, wedi'i lleoli ar lan llyn wrth droed Mynydd Lake Park, Maryland. Seiliwyd y gwesty ar westy ei mham, Mountain Lake Park, Maryland a seiliwyd un o brif gymeriadau'r nofel, Mr Britten, ar reolwr go iawn gwesty ei mham, sef Britten Leo Martin, Sr. a redai siop pob-dim ei mham ger y gwesty. Dymchwelwyd gwesty ei mham yn 1967 gan iddo gael ei esgeuluso.


Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfres Richard Jury (gyda Melrose Plant)

  1. The Man With a Load of Mischief (Boston: Little, Brown, 1981)
  2. The Old Fox Deceiv'd (Boston: Little, Brown, 1982)
  3. The Anodyne Necklace (Boston: Little, Brown, 1983)
  4. The Dirty Duck (Boston: Little, Brown, 1984)
  5. Jerusalem Inn (Boston: Little, Brown, 1984)
  6. Help the Poor Struggler (Boston: Little, Brown, 1985)
  7. The Deer Leap (Boston: Little, Brown, 1985)
  8. I Am the Only Running Footman (Boston: Little, Brown, 1986)
  9. The Five Bells and Bladebone (Boston: Little, Brown, 1987)
  10. The Old Silent (Boston: Little, Brown, 1989)
  11. The Old Contemptibles (Boston: Little, Brown, 1991)
  12. The Horse You Came In On (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1993)
  13. Rainbow's End (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1995)
  14. The Case Has Altered (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1997)
  15. The Stargazey (Efrog Newydd: Holt, 1998)
  16. The Lamorna Wink (Efrog Newydd: Viking, 1999)
  17. The Blue Last (Efrog Newydd: Viking, 2001)
  18. The Grave Maurice (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2002)
  19. The Winds of Change (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2004)
  20. The Old Wine Shades (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2006)
  21. Dust (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2007)
  22. The Black Cat (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2010)
  23. Vertigo 42 (Efrog Newydd: Scribner, 2014)
  24. The Knowledge (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2018)


Cyfres Andi Oliver

  1. Biting the Moon (Efrog Newydd: Holt, 1999)
  2. Dakota (Efrog Newydd: Viking Adult, 2008)


  1. The End of the Pier (Ballantine Books, 1993)

Cyfres Emma Graham

  1. Hotel Paradise (Knopf, 1996)
  2. Cold Flat Junction (2000)
  3. Belle Ruin (2005)
  4. Fadeaway Girl (2011)

Novelau, Straeon Byrion a Barddoniaeth

  1. Send Bygraves (Putnam, 1990)
  2. The Train Now Departing (Efrog Newydd: Viking, 2001)
  3. Foul Matter (Efrog Newydd: Viking Penguin, 2003)
  4. The Way of All Fish (Simon and Schuster, 2014)

Bywgraffiad

  1. Double Double: A Memoir of Alcoholism gyda Ken Grimes (Scribner, 2016)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Nero (1983)[10]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.goodreads.com/list/show/914.Best_Literary_Mysteries
  2. http://www.theedgars.com/2012GrandMasterRavens.pdf
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11905928x; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.htmlWikidata Q36578
  6. Alma mater: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.htmlWikidata Q36578
  7. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.htmlWikidata Q36578
  8. Anrhydeddau: http://awards.omnimystery.com/mystery-awards-nero.html.
  9. Sarah D. Fogle, editor, Martha Grimes Walks Into a Pub: Essays on a Writer with a Load of Mischief (N.p.:McFarland, 16 Rhagfyr 2010).
  10. http://awards.omnimystery.com/mystery-awards-nero.html.