Mark Zuckerberg
Mark Zuckerberg | |
---|---|
Mark Zuckerberg yn 2019. | |
Ganwyd | 14 Mai 1984 White Plains |
Man preswyl | Palo Alto |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | rhaglennwr, entrepreneur, gwyddonydd cyfrifiadurol, noddwr y celfyddydau, prif weithredwr, dyngarwr |
Swydd | prif weithredwr |
Cyflogwr | |
Taldra | 170 centimetr |
Tad | Edward Zuckerberg |
Mam | Karen Kempner |
Priod | Priscilla Chan |
Plant | Maxima Zuckerberg, August Chan Zuckerberg, Aurelia Chan Zuckerberg |
Gwobr/au | Neuadd Enwogion California, Time Person of the Year, Axel Springer Award, BigBrotherAwards, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard |
llofnod | |
Dyn busnes o'r Unol Daleithiau yw Mark Elliot Zuckerberg (ganed 14 Mai 1984) sydd yn nodedig am gydsefydlu Facebook, un o brif wasanaethau rhwydweithio cymdeithasol y byd. Gwasanaetho yn gadeirydd, prif weithredwr, a chyfranddaliwr rheolaethol Facebook, Inc.[1][2] Mae Zuckerberg hefyd yn un o gydsefydlwyr ac yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Breakthrough Starshot, prosiect i ddatblygu cerbydau gofod gan ddefnyddio hwyliau'r haul.[3]
Ganed ef yn White Plains, Efrog Newydd, i deulu Iddewig. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Harvard yn 2002, ac yno lansiodd y wefan Facebook yn ei ystafell fyfyriwr yn Chwefror 2004 gyda'i gydletywyr Eduardo Saverin, Andrew McCollum, Dustin Moskovitz, a Chris Hughes. Cynigwyd gwasanaeth Facebook i ambell gampws prifysgol ar y cychwyn, ac yn fuan tyfodd y wefan nes iddi fod yn agored i'r cyhoedd ar draws y byd, a chyrhaeddodd biliwn o ddefnyddwyr erbyn 2012. Yn 2007, yn oed 23, Zuckerberg oedd y biliwnydd ieuaf a wnaeth ei ffortiwn ei hun yn y byd. Aeth yn gwmni cyhoeddus ym Mai 2012, a Zuckerberg yn berchen ar fwyafrif y cyfranddaliadau. Yn Hydref 2021, roedd ganddo werth net o $122 biliwn,[4] a safle'r pumed ar restr pobl gyfoethoca'r byd, yn ôl cyfrif Bloomberg.[4]
Ers 2008, mae Time wedi cynnwys Zuckerberg ymhlith ei restr o'r 100 o bobl fwyaf dylanwadol yn y byd, a chafodd ei enwi yn Berson y Flwyddyn gan yr un cylchgrawn yn 2010.[5][6][7] Yn Rhagfyr 2016 derbyniodd Zuckerberg safle rhif 10 ar restr Forbes o "Bobl Fwyaf Pwerus y Byd".[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Napach, Bernice (26 Gorffennaf 2013). "Facebook Surges and Mark Zuckerberg Pockets $3.8 Billion". Yahoo! Finance.
- ↑ Hiltzik, Michael (20 Mai 2012). "Facebook shareholders are wedded to the whims of Mark Zuckerberg". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Rhagfyr 2017.
- ↑ Lee, Seung (13 Ebrill 2016). "Mark Zuckerberg just joined a new project to explore the universe faster". Newsweek (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2020.
- ↑ 4.0 4.1 "Bloomberg Billionaires Index: Mark Zuckerberg". Bloomberg L.P. Cyrchwyd 5 Hydref 2021. Cite magazine requires
|magazine=
(help) - ↑ "Mark Zuckerberg". Forbes.
- ↑ Grossman, Lev (15 Rhagfyr 2010). "Person of the Year 2010: Mark Zuckerberg". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Awst 2013.
- ↑ "The All-Time TIME 100 of All Time". Time. 18 Ebrill 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ebrill 2012. Cyrchwyd 20 Ebrill 2012.
- ↑ "The World's Most Powerful People". Forbes. Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2016.