Mark Carney
| Mark Carney | |
|---|---|
| Llais | Mark Carney - Today - 8 Aug 2013.flac |
| Ganwyd | 16 Mawrth 1965 Fort Smith |
| Man preswyl | Edmonton, Boston, Toronto, Ottawa |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | Doethur mewn Athroniaeth |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | economegydd, banciwr, gwleidydd, llywodraethwr banc canolog, arweinydd plaid wleidyddol |
| Swydd | Llywodraethwr Banc Lloegr, Llywodraethwr Banc Canada, Arweinydd Plaid Ryddfrydol Canada, Prif Weinidog Canada, Aelod o Dŷ'r Cyffredin Canada, prif weinidog |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | Value(s): Building a Better World for All |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol Canada |
| Tad | Robert J. Carney |
| Mam | Verlie Margaret Carney |
| Priod | Diana Fox |
| Perthnasau | Robert Carney |
| Gwobr/au | Swyddog Urdd Canada, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Gwobr Cenedlaethol am Lyfr Busnes |
| Tîm/au | Harvard Crimson men's ice hockey |
| llofnod | |
Gwleidydd ac economegydd o Canada yw Mark Joseph Carney[1] (ganwyd 16 Mawrth 1965). Ef yw arweinydd Plaid Rhyddfrydol Canada a Prif Weinidog Canada ers Mawrth 2025 a disgwylir iddo gael ei benodi yn Brif Weinidog Canada.[2] Roedd yn Llywodraethwr Banc Lloegr rhwng 2013 a 2020 a Chadeirydd Bwrdd Sefydlogrwydd Ariannol yr G20 rhwng 2011 a 2018.
Cafodd Carney ei eni yn Fort Smith, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin. Mynychodd Prifysgol Harvard, lle graddiodd mewn Economeg; wedyn, mynychodd Goleg Nuffield, Rhydychen, lle cafodd ddoethuriaeth. Roedd yn Lywodraethwr Banc Canada rhwng 2017 a 2013.[3] Yn Nhachwedd 2012 penodwyd Carney'n llywodraethwr nesaf Banc Lloegr, a cymerodd y swydd ar 1 Gorffennaf 2013.[4][5] Gadawodd swydd y llywodraethwr yn Mawrth 2020.[6] Mae wedi cael ei alw'n "fanciwr rockstar".[7]
Ar 14 Mawrth 2025, daeth Carney yn Brif Weinidog Canada. Un o'i weithredoedd cyntaf oedd galw etholiad cyffredinol.[8] Mae Carney wedi gwrthwynebu’n gryf gynlluniau gan Donald Trump i droi Canada yn dalaith yn yr Unol Daleithiau. Yn ei araith yng nghynhadledd Davos ym mis Ionawr 2026, beirniadodd Trump yn anuniongyrchol.[7] Dywedodd fod yn rhaid i Ganada fod yn "oleudy" i weddill y byd yn yr amseroedd anodd hyn.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The New Division of Labour: Trade Liberalization, Industrial Rationalization and Canadian-American Intra-industry Trade, 1970-1980". Traethawd ymchwil Prifysgol Harvard, 1988. Adalwyd 26 Tachwedd 2012.
- ↑ Cecco, Leyland (2025-03-09). "Mark Carney to be next Canada PM after winning Liberal leadership race". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-03-09.
- ↑ "Bank of Canada's Mark Carney". CBC. 3 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2011.
- ↑ (Saesneg) Mark Carney named new Bank of England governor. BBC (26 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 28 Tachwedd 2012.
- ↑ "Mark Carney". www.bankofcanada.ca (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Medi 2018.
- ↑ "Mark Carney, the 'boring guy' whose economic acumen could help Canada tackle Trump". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Ebrill 2025.
- 1 2 Leyland Cecco (21 Ionawr 2026). "'Nostalgia is not a strategy': Mark Carney is emerging as the unflinching realist ready to tackle Trump". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Ionawr 2026.
- ↑ "Prif Weinidog newydd Canada yn galw etholiad cynnar". Newyddion S4C. 23 Mawrth 2025. Cyrchwyd 1 Ebrill 2025.
- ↑ Leyland Cecco (22 Ionawr 2026). "Mark Carney says Canada must 'be a beacon to a world that's at sea'". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Ionawr 2026.