Coleg Sant Pedr, Rhydychen
Jump to navigation
Jump to search
Coleg Sant Pedr, Prifysgol Rhydychen | |
![]() | |
Sefydlwyd | 1929 |
Enwyd ar ôl | Sant Pedr |
Cyn enw | Neuadd Pedr |
Lleoliad | New Inn Hall Street, Rhydychen |
Chwaer-Goleg | dim chwaer-goleg |
Prifathro | Mark Damazer |
Graddedigion | 350[1] |
Graddedigion | 198[1] |
Myfyrwyr gwadd | 19[1] |
Gwefan | www.spc.ox.ac.uk |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg Sant Pedr (Saesneg: St Peter's College). Saif ar safle canolog yn Stryd New Inn Hall. Adeiladwyd ar safle dau o'r Inns hŷnaf, neu westai canoloesol y brifysgol – yr un Esgob Trellick, yn ddiweddarach New Inn Hall, a Rose Hall – sefydlwyd y ddau yn y 13g.
Mae hanes y coleg modern yn dechrau yn 1929 pan sefydlwyd Neuadd Sant Pedr gan Francis Chavasse, Esgob Anglicanaidd Lerpwl. Yn 1961, cafodd Neuadd Sant Pedr ei enwi yn goleg llawn Prifysgol Rhydychen â'r enw Coleg Sant Pedr. Mae ganddo waddolion ac arian wrth gefn o £34,000,000 (2006)[2].
Cynfyfyrwyr[golygu | golygu cod y dudalen]
- Peter Wright (1916–1995), gwyddonydd a swyddog gwrth-ysbïo ar gyfer MI5
- Ken Loach (g. 1936), cyfarwyddwr ffilm
- Hugh Fearnley-Whittingstall (g. 1965), cyflwynydd teledu
- Mark Carney (g. 1965), bancwr ac economegydd
- Hugh Dancy (g. 1975), actor
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Niferoedd myfyrwyr, Rhagfyr 2016: Prifysgol Rhydychen; adalwyd 25 Mai 2017.
- ↑ Oxford College Endowment Incomes, 1973-2006