Marie Antoinette

Oddi ar Wicipedia
Marie Antoinette
Ganwyd2 Tachwedd 1755 Edit this on Wikidata
Palas yr Hofburg Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1793 Edit this on Wikidata
o decapitation by guillotine Edit this on Wikidata
Place de la Concorde Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig, cymar Edit this on Wikidata
PriodLouis XVI, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
PartnerAxel von Fersen the Younger Edit this on Wikidata
PlantLouis XVII, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Hapsbwrg-Lorraine Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Groes Serennog Edit this on Wikidata
llofnod

Uchelwraig o dras Awstriaidd a brenhines olaf Ffrainc cyn y Chwyldro Ffrengig oedd Marie Antoinette (Ffrangeg: [maʁi ɑ̃twanɛt] (Ynghylch y sain ymagwrando); Marie Antoinette Josèphe Jeanne; 2 Tachwedd 1755[1]16 Hydref 1793). Ganed hi yn archdduges, yn ferch ieuaf Ffransis I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a'r Ymerodres Maria Theresa.[2] Ym Mai 1770, yn 14 oed, daeth Marie yn dauphine Ffrainc drwy ei phriodas â Louis-Auguste, etifedd eglur y goron Ffrengig. Ar 10 Mai 1774, esgynnodd ei gŵr i'r orsedd, yn Louis XVI, a daeth Marie yn frenhines.

Wedi wyth mlynedd yn briod, dechreuodd Marie Antoinette esgor ar blant, gan wella'i safle yn y llys brenhinol. Fodd bynnag, daeth yn fwyfwy amhoblogaidd ymhlith y bobl, a fe'i cyhuddwyd gan y libelles o afradlondeb,[3] anfoesoldeb, godineb, a chydymdeimlo â gelynion Ffrainc, yn enwedig Awstria. Pardduwyd ei henw ymhellach gan sgandal y gadwyn ddiemwnt ym 1784–85. Wedi cychwyn y Chwyldro Ffrengig ym 1789, fe'i gelwid yn Madame Déficit, a rhoddwyd arni'r bai am argyfwng ariannol Ffrainc oherwydd ei gwariant o bwrs y wlad a'i gwrthwynebiad i ddiwygiadau Turgot a Necker.

Wedi i'r llywodraeth arestio'r teulu brenhinol yn Hydref 1789 a'u cyfyngu i Balas Tuileries, dirywiodd safle'r frenhines yn llygad y bobl o ganlyniad i'w hymgais i ffoi i Varennes, a'r bwriad gan Louis i arwain gwrth-chwyldro, a'i chefnogaeth i'w nai, yr Ymerawdwr Ffransis II, yn Rhyfel y Glymblaid Gyntaf. Yn sgil cyrch ar y palas ar 10 Awst 1792, gorfodwyd i'r teulu brenhinol gymryd lloches yn y Cynulliad Deddfwriaethol, a chawsant eu carcharu yn Square du Temple ar 13 Awst. Diddymwyd y frenhiniaeth ar 21 Medi 1792, ac ar 21 Ionawr 1793 dienyddiwyd y cyn-frenin Louis XVI. Cychwynnodd achos llys Marie Antoinette ar 14 Hydref 1793, a fe'i cafwyd yn euog o uchel frad a'i dienyddiwyd â'r gilotîn yn Place de la Révolution ar 16 Hydref.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Birth of Marie Antoinette | History Today". www.historytoday.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Tachwedd 2022.
  2. 2.0 2.1 Fraser, Antonia (2001). Marie Antoinette (yn Saesneg) (arg. 1af). New York: N.A. Talese/Doubleday. ISBN 978-0-385-48948-5.
  3. Finances of Louis XVI (1788) | Nicholas E. Bomba https://blogs.nvcc.edu Archifwyd 2011-04-20 yn y Peiriant Wayback. › nbomba › files › 2016/10, https://books.google.com/books?id=ixJWG9q0Eo4C