Marianna Salzmann

Oddi ar Wicipedia
Marianna Salzmann
Ganwyd21 Awst 1985 Edit this on Wikidata
Volgograd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, sgriptiwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen yw Marianna Salzmann (ganwyd 21 Awst 1985) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a dramodydd.

Ganwyd Sasha Marianna Salzmann y Volgograd, yr Uneb Sofietaidd ar 21 Awst 1985, a chafodd ei magu yn Moscow tan 1995 pan ymfudodd, gyda'i theulu, i'r Almaen yn un o'r ymfudwyr Iddewig (Kontingentflüchtingen).

Mae Salzmann yn adnabyddus fel ddramodydd, ysgrifennwr traethodau, curadur theatr a nofelydd. A hithau'n awdur preswyl yn y Maxim Gorki Theatre yn Berlin, lle bu'n gyfarwyddwr artistig y theatr stiwdio. Studio Я, rhwng 2013 a 2015, dyfarnwyd iddi sawl gwobr am ei dramau yn ystod y cyfnod bu'n astudio yn Berlin ac wedi graddio, fe sefydlodd y New Institute for Writing for the Stage ar y cyd gyda Maxi Obexer. Mae'n dysgu ysgrifennu gwelidyddol ac yn trefnu gweithdai a darlleniadau yn rhyngwladol. Cyhoeddodd y nofel Beside Myself yn 2017 sy'n olrhain hanes teulu Iddewig dros bedair cenhedlaeth ac sydd hefyd yn adrodd hanes efeilliaid sy'n cael eu magu mewn fflat bychan yn Moscow ac sydd wedyn yn symud i dŷ lloches yng Ngorllewin yr Almaen. Enillodd wobr Jürgen Ponto Foundation Prize for Literature am y nofel gyntaf hon sydd wedi ei chyfieithu i 15 o ieithoedd.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Literaturpreis der Jürgen Ponto-Stiftung 2017 / Sasha Marianna Salzmann für "Außer sich" prämiert". www.boersenblatt.net (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2019-03-25.
  2. "Mara-Cassens-Preis an Sasha Marianna Salzmann". Literaturhaus Hamburg (yn Almaeneg). 2017-11-01. Cyrchwyd 2019-03-25.