Maria Pride

Oddi ar Wicipedia
Maria Pride
Ganwyd1970 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores deledu Gymreig yw Maria Pride (ganwyd 1970) sydd yn chwarae'r cymeriad Debbie Jones yn opera sebon Pobol y Cwm.

Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Rhydfelen, ger Pontypridd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn Chwefror 1999, chwaraeodd y cymeriad Cindy, yr unig ran fenywaidd yn nrama gyntaf Patrick Jones, Everything Must Go, mewn cydweithrediad â The Manic Street Preachers, yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Mae hefyd wedi chwarae Triste yn ail ddrama Jones, Unprotected Sex, hefyd yn Theatr y Sherman.[1]

Yn 2001, enillodd Maria wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau am ei rhan fel Pauline yn Care, y ddrama arobryn ysgrifennwyd gan Kieran Prendiville, cyn-gyflwynydd Tomorrow's World, am gamdriniaeth plant mewn cartref blant yng Nghymru. Cyfarwyddwyd Care gan Antonia Bird ac roedd yn serennu Steven Mackintosh. Yn 2002, serennodd Maria yn y ddrama Gymraeg, Gwyfyn.

Mae Pride wedi chwarae rhannau mewn nifer o ddramau teledu Cymreig, yn cynnwys High Hopes i BBC Cymru. Mae hefyd wedi chwarae rhannau bach mewn nifer o gyfres teledu Prydeinig tebyg i Casualty a Afterlife.

Fe enillodd Pride gystadleuaeth fersiwn enwogion o Mastermind Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Patrick (2001). Fuse : Patrick Jones, New and Selected Works. Parthian Books.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]